Home Up

LLANNOR

 

Tirgwyn  

Cawn hanes cyffelyb yn y darn canlynol o’r gyfrol Fa’ma a Fan’cw gan Ifan ’Refail:

Lle sych iawn oedd Tirgwyn; roedd rhaid cario dŵr o bell o ffynnon a oedd ar gwr y gors sydd cyd-rhwng Tu- hwnt-i’r-gors a Thirgwyn, ac roedd tir serth iawn o’r ffynnon i fyny at y tŷ. Roedd Owen Evans yn ddewin dŵr. Gallai ddod o hyd i ffynhonnell wrth ddefnyddio’r pren helyg. Roedd wedi llwyddo i ddarganfod dŵr mewn amryw o leoedd, yn ôl y galw am ei wasanaeth. Pan ddaeth Tomos Roberts, Rhos-y-foel yno rhyw brynhawn roedd Owen a’r mab Evan wedi dechrau turio yn y cae o flaen y tŷ – wedi bod yno efo’r pren a hwnnw’n dangos bod yno ddŵr. sôn am dyllu fu yno a Tomos Roberts yn eu helpu bob cyfle gai o – tyllu mor ddwfn nes bod angen rhoi coed a chylcha’r trolia i ddal yr ochr rhag cwympo. Andros o waith fu codi’r pridd o’r twll efo bwcedi a gweithio am ddyddiau cyn gweld golwgo ddŵr. Roedd Owen yn benderfynol fod ’na ddŵr yno , ac wedi tyllu i ddyfnder, dyma ddod i leithder a fuo nhw ddim yn hir wedyn nes gweld dŵr yn dechrau byrlymu. Roedd yn rhaid adeiladu y tu mewn i’r shafft ac fe brynwyd cerrig sgwâr gyda thwll crwn yn eu canol, sef cerrig wedi tynnu rowlars ohonyn nhw, o chwarel Trefor, a’r rheiny’n gerrig ag andros o bwysa ynddyn nhw. Caed lori a cheffylau o Hendre Bach at Star, caseg Tirgwyn, a’u cario nhw felly adra o Drefor. Roedd ’na hen geffyla’ cryf yn Hendre Bach, wedi arfer llusgo coed mawr i lawr ac i fyny gelltydd.

Fe ddaeth William Jones, Tŷ Capel, Mynydd Nefyn i Dirgwyn a thorri dau dwll bach, cwta fodfedd o ddyfnder ar ochr pob carreg yn union gyferbyn â’i gilydd, ac fe roed clampiau heyrn yn y tyllau yma i ollwng y cerrig i lawr. Fe gafwyd peth anhawster i gael clampiau i ollwng gafael ar ôl cael y garreg gyntaf i lawr gan fod y weiar rôp yn hir iawn, ac nid oedd modd ysgwyd y clampiau i ffwrdd. Ond fe lwyddwyd, a wir i chi pan oedd yr ail garreg yn cael ei chychwyn i lawr i’r hen dwll mawr hwnnw, dyma Owen Evans yn neidio arni gan roi troed o bobtu’r twll oedd yn y garreg, a mynd i lawr efo hi felly. Yna, dadfachu’r garreg yn y gwaelod, rhoi troed ymhob un o’r clampiau a chael ei dynnu i fyny i’r wyneb gan y dynion oedd yn helpu. Felly y gwnaed â phob carreg, a phan orffenwyd roedd y gwaith yn berffaith blwm, a phetae chi’n edrych i lawr roedd yn union fel ’taech yn edrych drwy faril gwn! A’r syndod mawr roedd yn un llath ar bymtheg o ddyfnder o ben y garreg ucha i waelod y shaft! Rwy’n siwr pe tae ’na swyddog diogelwch o gwmpas ’radag honno y basa’r tri dyn bach, Owen Evans, Tomos Roberts a William Jones yn cael eu rhoi mewn seilam am fentro gwneud ffasiwn beth! Bu’r hen shafft yn gaffaeliad mawr i deulu Tirgwyn. Galwodd Griffith Jones, Cae Newydd, Llithfaen (Pencaenewydd bellach), y shiafft yn ‘masterpiece’ pan alwodd o yno ryw dro ymhen blynyddoedd, a wir dyna oedd hi. Ond bellach fe ddaeth dŵr Cwmstrallyn – bendith fawr i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud bellach yw troi tap a thalu treth y dŵr!

Home Up

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc