Home Up 

LLANSTEFFAN

 

CRWYDRO SIR GÂR 

Aneirin Talfan Davies, (1970)

 

FFYNNON ANTWN, LLANSTEFFAN. (Tudalen 247 -8)  

(SN 347098)

Nid oes neb, braidd, yn ymweld â Llansteffan heb roddi tro am ffynnon Antwn Sant. Deuir o hyd i'r ffynnon swyn hon drwy ddilyn llwybr ar hyd y glannau am ryw hanner milltir. Ac yno mewn cilfach y mae'r ffynnon, lle gynt, y dywedir, y gellid gweld delw o'r sant ar silff uwchben y dŵr. Yr oedd y ffynnon yn sych pan ymwelais â hi.

 "Oes yma lawer o gyrchu ati?" gofynnais i hen ŵr a oedd yn eistedd ar un o'r seddau yn y llain goed.

 "O os, 'dyw ofergoelieth ddim wedi marw mas, hyd yn od yn Llansteffan 'ma! Ar waetha' hollti'r atom, ma' na ddigon o grotesi penchwiban i wneud taith Nicodemus i fwrw'u pinne i'r dŵr."

 "Pinne?"

 "Ie, dyna'r arfer, bwrw pinne i'r dŵr a dymuno."

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN o gyfrol CASGLIAD O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn 1895 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. Gwelir yr wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn y gwreiddiol.)

FFYNNON ST. ANTWN

 

Yn Llanstephan y mae Ffynnon St. Antwn neu fel y gelwir hi’n gyffredin, Ffynnon Shon Antwn. Nodai Mr. T.L.D. Jones-Parry yn gywir am dani yn “Y Genhinen” yn ddiweddar, ei bod “wedi ei hadeiladu â cherryg a chymrwd; ac uwch ei phen y mae eilunfa, neu le ceuol, y tybid y cedwid delw y sant. Yr oedd yn enwog yn yr amser gynt am ei rhinwedd i iachau clefydau.” Pobl ieuainc sy’n glaf o gariad yn bennaf a ymwelant â’r ffynnon hon yn awr; wishing well yw. Os dymuna dyn ieuanc yn galonnog wrth Ffynnon St Antwn i gael calon rhyw ferch ieuanc wedi ei throi ato ni bydd hynny yn hir cyn dod i ben; ond rhaid cyflwyno pin cam yn offrwm i dduw neu sant y ffynnon. Y mae miloedd o binnau yng ngwaelod Ffynnon St Antwn, wedi eu dwyn yn offrymau gan ewyllyswyr pryderus o bob cwr o’r wlad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Ffynnon Antwn 

(SN 3410)

Yn Llansteffan, ar lan aber yr afon Tywi mae Ffynnon Antwn (SN 3410) . Gellir mynd ati, meddai, wrth ddilyn llwybr sy’n mynd islaw’r castell ond uwchlaw’r traeth. Synna fod y ffynnon wedi ei chadw mewn cyflwr da gyda’r gwaith cerrig yn gywrain a’r agen yn y mur lle y gosodid delw o’r sant yno o hyd. Roedd cred bendant yn effeithiolrwydd y dŵr i wella nifer o anhwylderau, ond yn enwedig rhai oedd yn effeithio’r golwg. Roedd dŵr y ffynnon yn cael ei ddefnyddio gan y bobl leol ddechrau’r ugeinfed ganrif ac roedd rhaid taflu pin i’r ffynnon ar ôl ymweld â hi. Meddai’r awdur. “Nid yw pin yn ddim i ni, ond yn y gorffennol roedd yn eiddo gwerthfawr i wragedd tlawd. Hawdd yw dychmygu’r pererinion yn penlinio mewn gweddi ger y ffynnon gan ddeisyf am wellhad.”

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR

Allan o Mi Glywais i. gan Acres Evans tud. 32-36 - Ffynhonnau Shir Gar (Sir Gaerfyrddin) - Priodolwyd i'r ffynhonnau rinwedd bendithiol i wella pob math o glefydau. Medrai rhai symud anhwylderau megis gwendid yn y llygaid, dafadennau ar y dwylo, cryd cymalau, cryfhau'r corff a’r meddwl yn ogystal â rhoi iachâd o holl ddoluriau bywyd, boddio a helpu cariadon a gwneud y tlawd yn gyfoethog a’r trist yn llawen. Does ryfedd, felly, fod cymaint o bererindota tua'r ffynhonnau er iachâd. Ar ôl dyfodiad Cristnogaeth i'n gwlad, cysylltwyd y mwyafrif o'n ffynhonnau ag enw sant neu santes arbennig a rhoddwyd iddynt barch crefyddol.

Ac yn hyn o beth does ‘run pentref sy'n fwy nodedig am ei ffynhonnau na Llansteffan yn rhan moryd Tywi. Mae yno hyd heddiw bedair ffynnon, sef Ffynnon Rhosynnau, Ffynnon Sych, Ffynnon Dafolog, ac yn bennaf ohonynt Ffynnon Antwn (SN3410)yng nghysgod y castell hynafol. Ffynnon yn gweithredu er daioni yw Ffynnon Sant Antwn, a hynny, mae'n debyg, am mai ef oedd y mynach Cristnogol cyntaf a dreuliodd ei holl fywyd yn ymarfer duwioldeb ac yn ymladd yn erbyn holl alluoedd y fall. Ac onid difyrrwch i lawer ohonom ni’r rhai hyn heddiw oedd cael mynd yn blant ar drip Ysgol Sul i Lansteffan - yna plygu ein gloyw bin a'i daflu dros yr ysgwydd chwith i ddŵr y ffynnon? Ac wrth wneud, ddymuno, gan erfyn ar i Sant Antwn, roddi i ni yr hyn oll a ewyllysiem ei gael. Cymaint fu bri Ffynnon Sant Antwn yn y gorffennol fel y lluniwyd un gerdd hynod o ddigri iddi. Cadwyd hi mewn cof gan Dafydd Jones, Cwmtwrch, Nantgaredig, sef yr enwocaf o ofaint Felingwm. Ynddi clodforir rhin a bendith Trochle Llansteffan, sef, yn ein meddwl ni, Ffynnon Antwn.

Lle gorwych yw Llansteffan i wella dynion aflan;

Fe ylch y ffynnon hwy yn wyn, does le fel hyn yn unman.

Roedd Deio bach, Llandeilo a defed ar ei ddwylo,

Wrth fethu'n lân a'i gael yn iach roedd Deio bach yn wylo.

Cychwynnodd yn llawn lludded mewn gobaith am ymwared,

Ac yn y ffynnon ger y bae fe gollodd Dai y defed.

Roedd Bili bach o Brechfa â dolur yn ei gylla;

Roedd pob meddygon fawr a mân yn methu’n lân â'i wella. 

A'i bwynt ar Lansteffan fe redodd y gŵr a neidio fel broga o gwmpas y dŵr;

Ac wedi dymuno, O, rhyfedd yw'r nod, roedd cylla rhen Bili mor iach ag eriôd.

 Daeth merch o Drefforest mewn cyflwr tra blin a gyn oedd ei chlefyd sef methu cael dyn;

Hi ddaeth i Lansteffan a'i golchi â’r dŵr ac wrth syllu i’r ffynnon hi welodd ‘i gwr.

Os bydd diffyg synnwyr yn perthyn i rai, mae'r ffynnon yn gweithio yn glyfar a chlau,

Mae’n gwella y ddannodd, y bendro a'r gowt, mae'n drochle rhyfeddol, am hyn does ‘run dowt.

Daeth Sioni y Cardi o Lundain or daith, a hyn oedd ei glefyd, sef colli ei iaith.

Pan ddaeth i'r gymdogaeth fe dd'wedai'r hen bais "Cymrag fi ddim stando, wath fi dim ond Sais"

Fe gredwyd fod twymyn ar Sioni'n ddiau, anfonwyd yn union am feddyg neu ddau;

Dywedai'r meddygon, ”Gwnewch frys, fynd a'r gŵr i lawr at y ffynnon a'i olchi â'r dŵr.

I lawr i Lansteffan fe awd gyda brys. Cadd Sioni ei stripio i gyd ond ei grys;

Fe'i rhoed ger y ffynnon mewn hen ffetan frag. o'i olchi daeth Sioni i goflo'i Gymrag!

Ac felly dowch chithau am dro yn yr haf i ffynnon Sant Antwn as ydych yn glaf;

Cewch wared o'ch clefyd, a bendith yn stôr yn y ffynnon ddymuno yn ymyl y môr.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 36 Haf 2014  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU SIR GAR gan Saundra Storche

(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)

Ffynnon Antwn

Diolch byth bod Ffynnon Antwn (SN34600993) yn Llansteffan mewn cyflwr da. Soniais yn gynharach fod paganiaid yn cynnig offrwm i’r ffynhonnau ac mae'n ymddangos bod pobl dal a rhyw angen cynhenid i wneud hyn. Bob tro yr wyf Wedi ymweld a’r lle, gwelir cregyn, petalau, a darnau arian yn y dv”vr a charpiau wedi eu pinio i’r wal o’i hamgylch, gan fod y dv”vr yn gwella calon ddolurus yn 61 y chwedl. Roedd Antwn yn feudwy oedd yn dilyn ffyrdd Tadau a Mamau yr Anialwch drwy fyw bywyd o weddi ac ympryd, gyda’r pwyslais ar fwydo'r enaid yn hytrach na’r corff.

Ar y wal ger y ffynnon mae plac yn dangos y meudwy gyda dyfrgi ar ei dde ac ysgyfarnog ar ei chwith. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgyfarnog yn symbol Cristnogol sy’n gysylltiedig a'r Forwyn Fair. Mae arddangosfa debyg o gadachau yn amgylchynu Ffynnon Deilo yn Llandeilo. Adeiladwyd hon yn hen wal yr abaty ac yn 61 yr hanes roedd y fedyddfa o fewn muriau'r abaty ac yma roedd Teilo yn bedyddio ei braidd

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 37 Nadolig 2014  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up