Home Up

LLANWENOG

(SH22/4945)

Pytiau Difyr

Daw'r dyfyniad hwn Hanes Plwyf Llanwenog gan D.R a Z.C Davies a gyhoeddwyd yn 1939. Ar dudalen 11 sonnir am ffynhonnau lleol:

FFYNNON WENOG: Tardd  ffynhonell gref o ddwfr clir a grisialaidd ar y waun ychydig islaw mynwent Eglwys y plwyf. Dyma Ffynnon Wenog. Credid gynt fod rhyw rinwedd goruwchnaturiol yn perthyn i Ffynnon Wenog ac fe ddôi rhieni yma ar bererindodau o bell ac agos; dygent blant gweinion i'w hymolch yn ei dyfroedd ac fe dystid yn wir fod llawer o'r cyfryw wedi cryfhau ac wedi ymunioni yn eu cefnau, ac wedi dyfod i gerdded yn hoywiach, trwy gyfrwng yr ymolchiadau. Ni pheidiodd y ddefod o ddwyn babanod eiddilaidd i'r ffynnon i'w hiachâu hyd o fewn cof hynafgwyr sydd yn fyw heddi. Ymarllwysa'r ffrydlif neu'r nant fechan, a dardd o'r ffynnon i afon Cledlyn yn Aber-nant-llan.

FFYNNON Y BRODYR: Ffynnon doreithiog iawn ydyw hon hefyd, ac ni wêl pobl pentref Rhuddlan fyth ball ar ei dwfr. Gan nad ydyw nepell o'r hen briordy y cafwyd ei adfeilion gerllaw, iddi hi y deuai'r brodyr neu'r myneich gynt i nôl dwfr.

FFYNNON LLEUCU: Ar odre un o fronnydd Cwm Nant, rhyw ddau led cae o Danycoed, y tarddodd hon, ac am y Lleucu (Lucy) a roed ei henw i'r ffynnon hon y sonnir, hwyrach, yn y cwpled traddodiadol -

                                    Ger y ffynnon gorffennwyd,

                                    A gwae o'r dull! Lleucu Llwyd.

(Mae Llanwenog yng Ngheredigion. O gymryd yr A475 o Lanbedr Pont Steffan i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn, a theithio chwe milltir, drwy Lanwnnen a Drefach gwelir arwydd ar y chwith yn dynodi'r ffordd i Lanwenog. Cyfeirnod map 22/4945.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon y Brodyr a Ffynnon Wenog

Ym mhlwyf Llanwenog yn Nyffryn Teifi roedd ffynnon doreithiog nad oedd pall ar ei bwrlwm sef Ffynnon y Brodyr. Gan nad oedd ymhell o adfeilion yr hen briordy, iddi hi y deuai'r myneich i gyrchu dŵr ac i ddrachtio ohoni. Ceid ffynnon arall islaw mynwent eglwys y plwyf a elwid yn Ffynnon Wenog. Cyn toriad gwawr arferai mamau ddod â'u babanod eiddil a'u hymolchi yn y dyfroedd clir, grisialaidd, a thystid iddynt gryfhau wrth wneud hynny.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up