Home Up

Mamheilad 

(SO298052)

 

FFYNHONNAU SIR FYNWY

Ffynnon Angoeron, Mamheilad (SO298052)

Mae Sir Fynwy yn sir gyfoethog ei ffynhonnau fel pob sir arall yng Nghymru. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, bod yr ardal yn ddieithr i lawer ohonom. Ein colled ni yw hynny a hwyrach y bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r sir eleni yn gyfle i ni ddod i adnabod yr ardal yn well.

Plwyf diddorol yw Goytre Fawr sy'n cynnwys pentrefi bychain fel Mamheilad, Penperlleni, Felinfach, Nant-y-deri a Pencroesoped. Mae ardal Mamheilad yn gyfoethog ei ffynhonnau a hanes difyr iawn iddynt. Ger y pentref mae Ffynnon Angoeron. Credir mai ystyr yr enw anarferol hwn yw ffynnon sydd â dŵr yn anghyffredin o oer ynddi. Mae ei lleoliad yn anghysbell. Mae ar lethrau dwyreiniol Garn Clochdy ar ochr mynydd Llasgarn dau gan droedfedd islaw copa'r mynydd. Gellir ei gweld ar fin hen ffordd sy'n arwain o Lanofer i Drefethin. O gwmpas y ffynnon mae arwyddion o adeiladau fel pe bai yma unwaith bentref bychan. Ffynnon gilfachog yw hon wedi ei hadeiladu i mewn i ochr y llethr a cherrig sgwâr o boptu iddi a charreg fawr ar ei phen. Mae ochrau a'r to yn goleddu i mewn i'r llethr ac yn ddwy droedfedd o led. O wyneb y dŵr i do'r ffynnon mae'n ddwy droedfedd a hanner. Ger y ffynnon mae carreg enfawr sy'n gwneud sedd bron i bedair troedfedd o hyd a throedfedd a hanner o uchder. Ceir cyfeiriad at y ffynnon mor bell yn ôl a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd ei galw'n Ffynnon Rhufeinig ac yn Ffynnon Ofuned neu wishing well yn Saesneg. Pan aed ati i'w glanhau yn 1890 daethpwyd o hyd i nifer fawr o binnau a phennau crynion iddynt, hoelen, pwt o bensil, ychydig o fotymau a broitch copr. Tybed beth sy ynddi erbyn hyn? Gyferbyn â thafarn y Bedol ym Mamheilad mae llwybr cyhoeddus ac yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf roedd arwydd yno yn cyfeirio'r cerddwyr at y ffynnon.

Bu helynt mawr yn ymwneud â ffynnon digon cyffredin ym mhlwyf Goytre Fawr yn 1873. Y Rheithor, y Parchedig Thomas Evans a dynnodd y pentrefwyr i'w ben. Roeddynt wedi arfer cael dŵr bob dydd o ffynnon ar dir fferm arbennig ond yna prynodd y Rheithor y fferm. Un bore ym mis Mai aeth gwraig weddw o'r enw Mrs Waite, oedd yn byw mewn bwthyn gerllaw'r ffynnon, i nôl dŵr fel yr arferai wneud ond fe'i rhwystrwyd gan y Rheithor. Dwedodd wrthi na chai ddŵr o'r ffynnon nes iddi symud ei phlant o ysgol, oedd yn ei farn o, yn wrthwynebus i'r eglwys, ac anfon y plant i'r ysgol oedd o dan ei ofal ef. Gwrthododd Mrs Waite wneud hynny a rhwystrodd y Rheithor hi rhag cael dŵr o'r ffynnon a dyna fu dechrau'r helynt. Galwodd y Rheithor am ddynion i lanw'r ffynnon â cherrig y diwrnod hwnnw. Bore drannoeth daeth gweithwyr oedd yn torri coed yn y goedwig gyfagos at y ffynnon i dorri eu syched a chliriwyd y cerrig o'r ffynnon er mwyn iddynt gael mynd at y dŵr. Roedd y Rheithor yn flin iawn a llanwyd y ffynnon eilwaith â cherrig. Bore drannoeth, yn blygeiniol, casglodd y pentrefwyr at ei gilydd, mynd at y ffynnon, ei hail-agor a chario'r cerrig o'r safle.

Ar 26 Mehefin cyflogodd y Rheithor nifer fawr o weithwyr a llanw'r ffynnon a chymaint o gerrig fel nad oedd modd ei defnyddio eto ond ar 4 Gorffennaf daeth y pentrefwyr yno, a chydag ymdrech fawr llwyddwyd i glirio'r ffynnon. Cyn pen diwedd y dydd, fodd bynnag, roedd y Rheithor wedi gorchymyn i'w weithwyr gau'r ffynnon unwaith eto. Rhoddwyd mwy o gerrig drosti ar 8 Gorffennaf a'r 9fed. Ar Awst 16 daeth y pentrefwyr at y ffynnon a llwyddo i symud y cerrig a chael dŵr yfed ohoni. Roeddynt yn ddiolchgar o'i gael gan nad oedd ffynnon arall mor agos nac mor gyfleus i'w cartrefi. Pan welodd y Rheithor nad oedd y fath bentwr o gerrig yn ddigon i gau'r ffynnon gwnaeth rhywbeth ffiaidd. Roedd y ffynnon wedi ei hagor ar y Sadwrn. Am hanner nos y Sul canlynol gorchmynnodd y Rheithor i wastraff dynol o dŷ bach y rheithordy ac o dai bach bythynnod cyfagos i gael ei daflu i'r ffynnon. At hyn fe dorrwyd poteli a lluchiwyd y gwydr ar ben y gymysgfa ac ychwanegu tar ato yn ogystal. Erbyn bore Llun roedd y drewdod yn annioddefol ac aeth y plismon o'r pentre' at safle'r ffynnon i weld beth oedd yn achosi'r fath beth. Gorchmynnodd y Rheithor i ddynion lwytho cerrig i'r ffynnon a bu o a'i wraig yn eu gwylio'n gweithio drwy'r dydd. Rhoddwyd diod feddwol i'r gweithwyr gan y Rheithor o'i dafarn yn Nant-y-deri. Cyflogwyd dynion i gau'r ffynnon a buont yn gweithio yno am bythefnos gan gario tua mil o dunelli o gerrig i safle'r ffynnon. Galwodd y plwyfolion y pentwr yn Garn y Rheithor.

Daeth yr achos i sylw'r pwyllgor oedd yn gofalu am iechyd y cyhoedd yn ardal Pont-y-pŵl ond ni wnaed dim i wrando ar gwynion y pentrefwyr ac adfer y ffynnon. Ar 2 Medi ysgrifennwyd at gadeirydd y pwyllgor ar ran y bobl yn gresynu nad oedd dim wedi ei wneud. Roedd y bobl yn barod i agor y ffynnon ac i swyddog o'r pwyllgor fod yn bresennol i weld beth oedd ynddi. Ni chafwyd ateb i'r llythyr a arwyddwyd gan 64 o'r plwyfolion. Serch hynny gwahoddwyd rhai ohonynt i ymddangos gerbron y bwrdd i adrodd hanes y difwyno a fu ar y ffynnon, Roedd y Rheithor yn gwadu popeth. Doedd yna ddim ffynnon, meddai, felly sut fedrai'r dŵr gael ei ddifwyno a doedd a wnelo fo na'i weithwyr ddim oll â'r peth. Er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod beth oedd wedi digwydd cyhoeddwyd yn y Pontypool Free Press fod y ffynnon i'w hailagor ar 26 Hydref a bod croeso i bawb ddod i weld drostynt eu hunain beth a wnaed iddi. Ar 27 Hydref ymddangosodd yr adroddiad canlynol yn y papur:

Ddoe gweithredodd plwyfolion Goytre Fawr eu bwriad i agor ffynnon ar y cae main a gaewyd gan y Rheithor, Y Parchedig Thomas Evans, ym mis Mai. Am bump o'r gloch y bore casglodd rhyw bymtheg ar hugain o ffermwyr ac eraill yn Penperlleni a gorymdeithio oddi yno i'r ffynnon. Disgwylid y byddai gwrthwynebiad chwyrn i hyn gan ddynion a gyflogwyd gan y Rheithor, a daeth yr Arolygydd Macintosh a'r Arolygydd Freeman o'r Fenni yno er mwyn osgoi unrhyw gythrwfl. Roedd yr Heddwas Allen o Lanofer a'r Heddwas Lawrence eisoes wedi bod yn aros yn Nant-y-deri a hynny ar gost y Rheithor. Ychydig cyn y diwrnod a glustnodwyd i agor y ffynnon roedd y Rheithor wedi gorchymyn i'w weithwyr osod hyd yn oed mwy o gerrig drosti a chodi ffens gref o gwmpas y safle.

Llwyddodd y plwyfolion i fynd i'r cae main a thrwy'r ffens heb ei malu a dechreuwyd gweithio'n ddiwyd i symud y cerrig. Yr un i godi'r garreg gyntaf oedd Mrs Waite a fu'n faen tramgwydd i'r Rheithor yn y lle cyntaf, a'i safiad arwrol dros ei hawl i ddewis i ba ysgol i anfon ei phlant a fu'n achos yr holl helynt. Wrth i'r cerrig lithro'i lawr ochr y garn gellid clywed eu sŵn gryn bellter i ffwrdd. Wedi pum awr o waith daeth y dynion at y ffynnon a chafwyd prawf o'r modd y llygrwyd y dŵr. Wedi i'r cerrig a gwreiddiau'r coed a ddefnyddiwyd i'w llanw cael eu clirio daeth y dynion ar draws y carthion a'r gwydr toredig roedd y Rheithor wedi gwadu eu bodolaeth. Roedd y drewdod yn annioddefol.

Gan fod y Rheithor wedi gwrthod adfer y ffynnon i'r pentrefwyr gael ei defnyddio, casglwyd digon o arian gan y plwyfolion i fynd a'r mater i'r llys sirol a chytunwyd ar ddiwrnod i wrando'r achos. Ond cyn hynny llwyddodd y Rheithor i symud yr achos i Gwrt y Siacer (Court of Exchequer) gan y mynnai na chai gyfiawnder mewn llys lleol. Aeth y cyfreithwyr a gyflogwyd gan y plwyfolion ati i baratoi ymladd yr achos yn y Brawdlys ym Mynwy. Unwaith eto aeth y Rheithor â'r achos i lys yn Llundain, gan osgoi dod â'r achos i gyfraith. Gan fod ganddo arian roedd yn gallu gwneud hyn a doedd gan y plwyfolion ddim modd i'w rwystro. Ceisiodd y Rheithor liniaru rhywfaint ar y sefyllfa drwy roi ffynnon arall iddynt yn y goedwig ond dywedwyd mai pydew oedd yn dal dŵr yn unig oedd hwn ac nad oedd tarddiad yno a'i fod yn sychu yn yr haf pan oedd mwyaf o eisiau dŵr. Mae'r hanes yma'n dangos yn glir pa mor bwysig oedd ffynhonnau cyffredin i bobl ers talwm a'u bod yn barod i ymladd i'r eithaf i sicrhau cyflenwad o ddŵr pur i'w yfed.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up