Home Up

NEFYN

 

FFYNNON FAIR

Gwybodaeth gan un o'n haelodau - Gaenor Maddocks.

Mae'r ffynnon i'w gweld rhyw ganllath o groesffordd Nefyn ar y dde ar y lôn sy'n mynd rhwng Nefyn a Llithfaen. Does dim dŵr ynddi. Codwyd adeilad a tho o'i chwmpas ym 1866 ac enwau Robert Jones a John Bailey arno. Roedd hon yn ffynnon a ddefnyddiwyd gan y pererinion ar y ffordd i Enlli. Yn rhyfedd iawn nid oes sôn amdani yn 'The Holy Wells of Wales' gan Francis Jones. Mae'r wybodaeth yma yn werthfawr iawn felly.

Byddai cael mwy o wybodaeth am ffynhonnau'r pererinion yn ddiddorol iawn (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU’R PERERINION

Hwyrach i chi gofio i mi grybwyll yn Llygad y Ffynnon Rhif 3 fod cynlluniau ar droed  i greu teithiau sy’n dilyn llwybrau’r pererinion i Enlli. Dywedais y byddai’n beth da i gynnwys y ffynhonnau yn y teithiau hyn. Ar y pryd doeddwn i ddim yn siŵr wrth ba ffynhonnau y byddai’r pererinion yn debygol o aros, ond diolch i lyfr H.D Williams ar Enlli, cefais fy ngoleuo. Ar dudalen pump mae’n rhestru nifer o ffynhonnau lle’r arferai’r pererinion wersylla a gorffwys am ychydig ar eu taith i Fangor tuag Enlli: Ffynnon Odliw, Glynllifon: Ffynnon Beuno, Clynnog: Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn: Ffynnon Fair, Nefyn: Ffynnon Penllech, Tudweiliog a Ffynnon Fair, Aberdaron.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

FFYNNON FAIR

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up