Home Up

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Bosherton - Ffynnon Gofan.(SM 9692)

Yn sir Benfro mae’n nodi’r ffynnon yn Bosherton a Ffynnon Gofan.(SM 9692)Mae’r ffynnon mewn capel bychan hanner ffordd i fyny’r clogwyn ger y môr. Dim ond rhywun ar ben ei dennyn ac yn barod i wneud unrhyw beth i wella o’i anhwylder a fyddai’n barod i fentro’r llwybr i’r ffynnon gerllaw’r capel a phenlinio yno mewn gweddi i’r sant, meddai.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up