Home Up

Llanfair Iscoed

 

Naw Ffynnon Coedwig Wentwood

Yng nghoedwig Wentwood, i'r gogledd o Lanfair Iscoed, yn y goedwig uwchlaw'r gronfa ddŵr, mae Naw Ffynnon. Nid oes traddodiadau amdanynt wedi goroesi. Mae'r llwybrau drwy'r coed a'r seddau o gwmpas y ffynhonnau yn dangos fod yma le da i ddenu ymwelwyr. Mae pensaernïaeth un ffynnon yn arbennig o ddiddorol gan fod y gwaith cerrig uwchben y tarddiad ar ffurf cwch gwenyn ond bod muriau'r ffynnon ei hun yn sgwar. Mae'r dŵr yn llifo i faddon crwn o gerrig o flaen y ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcc

Home Up