Home Up

PISTYLL

 

 

FFYNNON BEUNO,  

(SH328423)

 

Dyma un o ffynhonnau'r pererinion ar eu ffordd i Enlli. Mae'r ffynnon ei hun ger yr eglwys hynafol ac mae'r lle arbennig hwn yn werth ymweld ag ef gan fod rhyw awyrgylch braf o'i gwmpas. Rhaid troi i'r chwith oddi ar y ffordd fawr sy'n mynd rhwng Llithfaen a Nefyn lle y gwelir arwydd sy'n nodi mai dyma'r ffordd i Eglwys Beuno Sant. Wedi dilyn y ffordd gul am ychydig dewch at faes parcio bach hwylus a gwell yw gadael y car yno a cherdded yr ychydig bellter i lawr at yr eglwys. l'r pant y rhed y dŵr meddai'r hen air ac wrth gerdded i lawr at yr eglwys gellir clywed sŵn y dŵr yn llifo'n ffrwd gref ar hyd ochr y ffordd. Mae'r llifeiriant wedi ei gronni mewn llyn bychan a waliau cerrig o'i gwmpas ar waelod yr allt. Llifa'r dŵr allan o'r gronfa drwy bistyll i nant sy'n byrlymu i lawr wrth ochr mynwent yr eglwys ar ei ffordd i'r môr. Mae'r eglwys yn un ddiddorol hefyd, adeilad heb drydan ynddo a gwellt wedi ei wasgaru dros y llawr. Roedd ymweld â hi fel camu'n ôl i'r gorffennol ac yn brofiad bythgofiadwy.

Ffynnon Beuno, Pistyll.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 13 NADOLIG 2002

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up