Home Up

 PORTHMADOG

 

Dyma restr o ffynhonnau a fu unwaith yn diwallu anghenion trigolion Porthmadog cyn i ddŵr Llyn Tecwyn gyrraedd y tai. Diolch i Dewi Lewis am eu cofnodi. Tybed a oes rhywun sy'n gwybod am leoliad hen ffynhonnau mewn trefi eraill yng Nghymru? Os oes, beth am anfon gwybodaeth amdanynt i'r Llygad.

FFYNHONNAU MORFA LODGE: Roedd dwy ffynnon yma. Lleolid y gyntaf tua hanner ffordd i fyny'r drive ar y chwith ac roedd llwybr yn mynd ati. Gellid dod o hyd i'r llall ar yr ochr tu ôl i'r Eglwys Gatholig wrth fynd i fyny'r rhiw.

FFYNNON CARREG SAMSON: Roedd ar y dde wrth fynd am y golf links.

FFYNNON LÔN CEI: Mae hon dros y ffordd i'r slipway, wrth y graig. Flynyddoedd yn ôl byddai pobl yn mynd yno i olchi eu llygaid.

FFYNNON MOEL-Y-GEST: Roedd hon ger yr ochr allan i giât y fynwent gyhoeddus ar lôn Cricieth. Roedd ar bobol ofn mynd ati gan eu bod yn credu bod ysbryd yn symud o gwmpas y fynwent!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR . . .  

 

FFYNHONNAU’R GEST YN EIFIONYDD

gan Alltud Eifion

(Mae’r erthygl gyfan i’w chael dan y pennawd uchod)

PORTHMADOG

Ffynhonnau Tu hwnt i’r Bwlch: Y mae un a elwir Ffynnon Beudy yr Uchain, Ffynnon Uchaf a’r Ffynnon Isaflle’r oedd hen Du Hwnt i’r Bwlch, a digonedd o ddwfr ynddynt. Bu llawer o gario ohonynt (pan fyddai yr haf yn sych) o Borthmadog cyn cael y public water.

Ffynnon Nant Adda, Penamser, y naill du i’r cemetery.

Hefyd Ffynnon Bryn y Garth. Y mae islaw y gatehouse i Bronygarth, Porthmadog. 

 

Porthmadog

Ffynnon Bryn y Garth SH?

Ffynnon Nant Adda SH554394

Ffynhonnau Tu Hwnt i’r Bwlch: c.SH564387

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 19 Nadolig 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up