Home Up

RHIW

 

Ffynnon y Saint (Ffynnon Bron Llwyd)

(SH 2419 2947)

ANNWYL OLYGYDD  

Diolch o galon i Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, Pwllheli am anfon gwybodaeth a lluniau am ddwy ffynnon i LLYGAD Y FFYNNON.

Nodyn byr am ddwy ffynnon sydd gen i, heb fawr o fanylion. Mae'r gyntaf, sef Ffynnon Saint, neu Ffynnon Bron Llwyd, wedi ei chofrestru yn An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire a disgrifir hi fel ffynnon sy'n sefyll dri chan troedfedd uwchlaw'r môr, ar lethrau Mynydd y Rhiw yn Llŷn, wrth ymyl Bron Llwyd. Mae iddi furiau cerrig yn amgau llyn naw troedfedd sgwâr. Trwch y muriau yw dwy droedfedd. Mae'n amhosib penderfynu a yw'r tri gris ar y pen dwyreiniol o'r ochr ogleddol a'r ochr ddeheuol yn artiffisial ynteu wedi eu creu yn ffodus-ddamweiniol drwy gwymp y cerrig.

Cyflwr y ffynnon: teg.                 Cyfeirnod map: SH 2419 2947

Ffynnon y Saint (Ffynnon Bron Llwyd), Rhiw, Llŷn. (Ebrill 1998)

Mae'r ail ffynnon yn ddirgelwch llwyr. Daethpwyd o hyd iddi'n ddamweiniol ym mis Mehefin 1999 wrth osod llwybr troed ar ochr y ffordd fawr, B4413, sydd yn arwain o Aberdaron i Bwllheli. 

GWELER ABERDARON AM WYBODAETH AM Y FFYNNON ARALL

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PEN DRAW LLŶN

HEL FFYNHONNAU

Eirlys Gruffydd

 Yn ystod mis Awst eleni bu Ken a minnau yn ymweld â nifer o ffynhonnau ardal Mynydd y Rhiw, Llŷn, yng nghwmni Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, un o selogion ein cymdeithas. Mae Wil yn adnabod ei filltir sgwâr yn arbennig o dda a braint i ni oedd ei gael i'n cyfarwyddo a'n haddysgu am ardal mor arbennig. Aeth â ni gyntaf i ymweld a FFYNNON SAINT, BRON LLWYD, MYNYDD Y RHIW. (Os cofiwch bu Wil yn sôn am y ffynnon hon yn y rhifyn blaenorol.) O fuarth Bron Llwyd mae'r llwybr yn codi'n serth i fyny ochr y mynydd. Yna, wedi cerdded drwy'r goedwig, daethom i ddarn agored lle oedd y tir wedi ei glirio a cherrig anferth ar y llethr uwchben yn edrych yn fygythiol o ansicr. Wrth ddilyn wal gerrig fendigedig, na welodd olau'r haul ers rhai degawdau, daethom yn nes at y ffynnon. Roedd Jac Codi Baw wrthi yn clirio'r coed o gwmpas y safle ac ofnais am funud ei bod yn rhy hwyr a bod rhan arall o'n hetifeddiaeth wedi syrthio'n ysglyfaeth i Famon ein dydd. Yn ffodus, roedd y gyrrwr yn gwybod am fodolaeth y ffynnon ac mae'n ddigon diogel. Yn wir, mae llwybr cyhoeddus yn arwain drwy'r goedwig i fyny o'r ffordd fawr ger traeth Porth Neigwl, heibio i Dy'n y Parc ac i fyny'r llethr at y ffynnon. Yna mae'r llwybr yn mynd ar hyd ochr y llethr cyn troi i lawr i fferm Bron Llwyd.

Roedd tipyn o dyfiant yn y ffynnon ei hun ac o'i chwmpas, ond wedi awr neu ddwy o waith caled - Wil oedd yn gweithio galetaf - gallem weld ei phensaernïaeth yn glir. Mae'r dŵr yn cronni ynddi wrth ddod i lawr y llethr, yna mae'n goferu o'i gwaelod ac yn llifo i nant sy'n llithro'n dawel drwy dywyllwch y coed pîn gydag ochr y llethr. Gellir mynd at y dŵr yn y ffynnon i lawr grisiau cerrig o ddau gyfeiriad. Roedd y dŵr yn y ffynnon yn fas am fod y gofer yn gwbl agored. Pe byddem wedi symud un garreg wrth geg y gofer byddai'r ffynnon wedi llenwi a dwr yn fuan. Roedd yn amlwg bod lefel y dŵr yn gyffredinol yn llawer uwch nag ydoedd y diwrnod hwnnw am fod llinell glir ar y gwaith cerrig o amgylch y ffynnon yn dangos i lle y byddai'n arfer cyrraedd. Mae'r muriau o gwmpas y ffynnon yn rhyfeddol ynddynt eu hunain am eu bod yn ddwy droedfedd o drwch a phedair troedfedd o uchder, a'r ffynnon ei hun yn mesur naw troedfedd sgwâr. Yn ôl Myrddin Fardd byddai merched yr ardal yn dod at y ffynnon bob dydd Iau Dyrchafael i olchi eu llygaid ac i daflu pin i'r ffynnon fel arwydd o ddiolchgarwch. Rhaid cyfaddef na fu neb yn chwilio yn y baw ar ei gwaelod am binnau. Wrth adael y ffynnon teimlodd y tri ohonom mai da oedd i ni fod yno a'n bod wedi gadael ein hôl ar y lle. Yn sicr, mae'n ffynnon gwerth ymweld â hi. Diolch i Wil am ein harwain yno; ni fuasem byth wedi mentro hebddo.

Wedi inni fwynhau'n cinio wrth edrych ar yr olygfa fendigedig a dyfroedd Porth Neigwl o ben Mynydd y Rhiw, aeth Wil â ni i weld nifer o ffynhonnau oedd wedi diwallu anghenion yr ardal dros y cenedlaethau. Mae FFYNNON ROFYR ar y llechwedd islaw'r mast ar ben y mynydd a'i dŵr yn llifo i lawr i Tyddyn. Oddi yno gellir edrych draw i gyfeiriad Rhoshirwaun a Rhydlios. Ffynnon gwbl naturiol yw hon ond roedd arwyddion fed rhywun wedi ceisio glanhau o'i chwmpas yn gymharol ddiweddar gan fod tyweirch wedi eu codi a'u gosod ger y ffynnon. Roedd y cerrig ar un ochr iddi wedi dymchwel hefyd. Dyfnder y dŵr ynddi oedd wyth modfedd ac roedd yn mesur tua thair troedfedd ar draws i bob cyfeiriad.

Ar ôl gadael y mynydd gyda'i gwrlid grug ac eithin bendigedig, aeth Wil â ni i weld FFYNNON CONION. Ffynnon a fu unwaith yn diwallu angen nifer o aneddau cyfagos oedd hon. Roedd llechi gleision wedi codi o'i chwmpas a'i maint yn rhyw ddwy droedfedd sgwâr. Yn y gorffennol roedd caead o lechen wedi bod dros y ffynnon ac roedd modd ei godi er mwyn cael dŵr ohoni. Bellach mae'r ffynnon wedi ei llanw a cherrig ond mae'r dŵr yn dal i lifo'n araf ohoni gan wneud y tir o'i hamgylch yn wlyb a chorsiog.

Rhaid oedd gadael y tir uchel a mynd i lawr i Lanfaelrhys i weld FFYNNON NANT GADWAN. Roedd y ffynnon i'w gweld o dan yr inclên a godwyd drosti gan y gwaith manganîs o ddeutu 1902-1903.

Yn llawer rhy fuan daeth ein diwrnod ym Mhen Llŷn i ben. Diolch i Wil Williams am ein tywys, a diolch iddo am ei holl waith yn nodi a diogelu ffynhonnau ei fro. Byddai cael aelodau eraill tebyg iddo yn gaffaeliad mawr i'n cymdeithas.   

Yn llawer rhy fuan daeth ein diwrnod ym Mhen Llŷn i ben. Diolch i Wil Williams am ein tywys, a diolch iddo am ei holl waith yn nodi a diogelu ffynhonnau ei fro. Byddai cael aelodau eraill tebyg iddo yn gaffaeliad mawr i'n cymdeithas.   

LlYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON AELRHIW

(SH233284) 

 

FFILMIO’R FFYNHONNAU

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Wedi gadael Mynytho aethom i Fynydd y Rhiw i weld Ffynnon Aelrhiw. (SH233284) sydd mewn cae ychydig bellter o’r eglwys wrth fynd ar y ffordd i gyfeiriad  pentref Rhiw. Mae’r olygfa o’r ffynnon hon yn fendigedig a Phorth Neigwl yn agor o’n blaenau. Roedd hon yn un o ffynhonnau’r pererinion ac fe allem ddychmygu teithwyr blinedig yn dod ati i geisio torri eu syched ar ol dringo i fyny o wastadedd Llanengan cyn gweld fod pen y daith yn Aberdaron ger llaw. Llwyddwyd i amddiffyn y ffynnon  rhag cael ei dinistrio gan draed gwartheg drwy osod ffens gref o’i hamgylch. Serch hynny roedd rhai o’r gerrig  o’r muriau wedi syrthio ac roedd y ffynnon ei hun yn llawn o ferw’r dwr. Roedd Michael yn falch o’r cyfle i’n ffilmio yn clirio’r tyfiant er mwyn gweld y dwr yn dechrau llifo’n loyw unwaith eto. 

Ffynnon Aelrhiw, Rhiw

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON AELRHIW,

(SH23392848)

Erbyn hyn mae Ffynnon Aelrhiw yn Rhiw (SH23392848) hefyd wedi ei glanhau. Diolch i Gyfeillion Llŷn am eu gwaith ac edrychwn ymlaen at weld mwy o ffynhonnau’r fro yn cael eu hadfer.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno. Gosodwyd giat newydd ger y lôn sy’n arwain at Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) yn Rhiw a bellach mae’n haws mynd at y ffynnon honno

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON AELRHIW,

(SH23392848)

Derbyniwyd cais am gymorth gan Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal am Ardal o Brydferthwch Eithriadol Penrhyn Llŷn, Cyngor Gwynedd, parthed Ffynnon Aelrhiw, Rhiw. Gwnaed gwaith adnewyddu ar y ffynnon ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae’r tirfeddiannwyr yn barod i adael i’r cyhoedd gael mynediadi’r ffynnon ond bod un cwmni yswiriant cyhoeddus yn bryderus ynglŷn â hyn ac yn gofyn am gael rhoi grille metel dros y dŵr. Yn naturiol ni fyddai hyn yn dderbynniol oherydd fod y ffynnon yn gofrestredig. Awgrymwyd hefyd y dylid rhoi arwydd ger y ffynnon ond heb ddweud beth yn union oedd natur na lleoliad yr arwydd hwnnw. Awgrymwyd i Bleddyn y dylid gosod giat bren, tebyg i’r un sy ar Ffynnon Fyw, Mynytho(SH2330913087) wrth fynediad Ffynnon Aelrhiw. Nid yw hon yn ffynnon arbennig o ddofn, rhyw droedfedd o ddŵr sy ynddi. Yn sicr gellid gosod arwydd yn rhybuddio’r cyhoedd mai eu cyfrifoldeb nhw yw eu diogelwcg tra’n ymweld â’r ffynnon. Edrychwn ymlaen at weld bedd fydd yn digwydd yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CLIRIO  FFYNHONNAU   LLŶN

Diolch i Bleddyn Prys Jones am ganiatáu i ni ddefnyddio’r wybodaeth yma o LLYGAD LLŶN.

 Clirio Ffynnon Aelrhiw (SH23392848)  MEHEFIN 1af 2014

 

Cafwyd diwrnod clirio llwyddiannus ar ddydd Sul, Mehefin 1af, mewn llecyn arbennig iawn yn yr Ardal o Harddwch Naturiol

Eithriadol. Mae Ffynnon Aelrhiw yn ffynnon sanctaidd, tafliad carreg o Eglwys Sant Aelrhiw yn Rhiw. Mae hi’n ffynnon hanesyddol iawn , a chredir ers canrifoedd fod ei dyfroedd yn gallu iachau rhai afiechydon y croen. Diolch i’r gwirfoddolwyr a ddaeth i gynorthwyo, ac yn enwedig i Lee Oliver o Cadwch Gymru’n Daclus am drefnu’r digwyddiad  a sicrhau fod offer pwrpasol a lluniaeth wrth law.

Wrth weld cyflwr y safle cyn cychwyn y gwaith rhaid yw edmygu dewrder, cryfder a dyfalbarhad y gwirfoddolwyr. Mae ffynhonnau yn bethau byw a rhaid eu hymgeleddu yn barhaus. Mae berw’r dŵr arbennig o dda yn tyfu yn y ffynnon hon ac mae wedi gwella anhwylder ar y croen yn gymharol ddiweddar. (Gol.)  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up