RHUAL, YR WYDDGRUG
FFYNNON TYSILIO
(SJ 227649)
Mae cangen yr Wyddgrug o gylch cyd-enwadol CYTUN wedi penderfynu gwneud pererindod flynyddol at Ffynnon Tysilio ar dir ystad Rhual ger yr Wyddgrug. Mae'r ffynnon ar y cae a ddefnyddiwyd fel maes carafannau i Eisteddfod Bro Delyn yn 1992. Adnewyddwyd y ffynnon ar gyfer yr achlysur hwnnw ond erbyn hyn mae wedi llanw â dail a brigau unwaith eto. Heb amheuaeth mae hon yn hen ffynnon a chredir mai Tysilio oedd sant gwreiddiol yr Wyddgrug cyn i'r Normaniaid ail-gysegru llawer o'r eglwysi i Fair a Phedr. Yn yr Oesoedd Canol roedd delw o Grist ar y groes yn yr eglwys a dywedir fod y ddelw yn wylo ac fe'i galwyd yn Ddelw Fyw. Credir bod pererinion yn ymweld â'r ffynnon wedi iddynt fod yn yr eglwys. Yn ddiweddarach defnyddiwyd y ffynnon fel man bedyddio gan Fedyddwyr yr ardal, felly bu mwy nag un enwad yn gysylltiedig a'r fan arbennig yma. Syniad gwych yw cynnal y bererindod flynyddol. Bydd hyn yn sicrhau fod y ffynnon yn cael ei glanhau'n rheolaidd ac y bydd pawb yn gwybod amdani. Beth am i eglwysi mewn ardaloedd eraill efelychu'r Wyddgrug?
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dangos diddordeb yng ngwaith ein cymdeithas ac yn barod i ddiogelu'r ffynhonnau sydd ar y tiroedd o dan ei gofal. Dyma beth yw newyddion da o lawenydd mawr. Ceir mwy o fanylion yn y rhifyn nesaf o Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
CADARNHAU DILYSRWYDD, SAFLE AC ENW
FFYNNON DYSILIO
RHUAL, YR WYDDGRUG
(SJ 227649)
Ken Lloyd Gruffydd
Mae’r
wybodaeth yma yn rhoi sawl trywydd i ni i’w dilyn.Yn gyntaf, gwelwn mai enw
blaenorol Ffynnon Rhual oedd Ffynnon Dysilio ac fe wyddom i Tysilio (fl.642) fod yn sant Cymreig gydag eglwysi wedi eu cysegru iddo o
Feifod yn y canolbarth hyd at Landysilio ar lannau culfor Menai. Ef hefyd yw
nawddsant Bryn Eglwys a Llandysilio-yn-Iâl, y ddau le o fewn ugain milltir
i’r Wyddgrug. Dichon mai’r Normaniaid a ddisodlodd Tysilio fel y sant lleol
ac ailgysegru eglwys yr Wyddgrug i’r Santes Fair yn yr unfed ganrif ar ddeg.
Cyfeirnod map Ffynnon Dysilio, Rhual yw SJ 227649
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18, Haf 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON YR
YSBRYD (SJ224647]
Ar y ffordd allan o’r Wyddgrug tuag at Y Waun a Chilcain gellir gweld pwll
sylweddol o ddŵr mewn coedlan wrth ochr y ffordd. Dyma safle Ffynnon yr
Ysbryd. Dinistriwyd adeiladwaith y ffynnon pan ledwyd ffordd ym mhumdegau’r
ganrif ddiwethaf. Ond mae’r tarddiad yno o hyd. Pan fydd y tyfiant yn uchel yn
yr haf ac yn gorchuddio’r safle, does dim posib gweld y dŵr. Ond yn y
gaeaf gallwn weld yn glir fod yma gryn dipyn o ddyfroedd yn cronni ac mae hyn yn
awgrymu tarddiad grymus. Ceir hanesyn diddorol am y ffynnon.
Roedd bachgen o’r Waun yn canlyn merch i dafarnwr yn Yr Wyddgrug. Arferai
gerdded o’r pentref i’r dref ac yn ôl yn rheolaidd i ymweld â’i gariad.
Credai llawer fod ysbryd neu fwbach yn llechu yn y coed wrth i’r ffordd
ddechrau dringo wedi mynd heibio i’r drofa i fferm Maes Gannon. Byddai’n
gwneud sŵn rhyfedd ac yn dychryn y teithwyr ond er cerdded yno yn gyson ni
welodd y bachgen ddim anarferol. Un noson, ar ei ffordd adref gwelodd wraig mewn
dillad llwyd, hir, yn sefyll ar y ffordd o’i flaen. Sylwodd bod cwcwll dros ei
phen ac na allai weld ei hwyneb yn glir yn y gwyll. Gofynnodd iddo a wnâi e
gyd-gerdded â hi heibio i’r darn coediog lle’r oedd yr ysbryd. Cytunodd y
llanc gan ddweud wrthi nad oedd angen iddi ofni gan iddo gerdded llawer ar y
ffordd heb brofi dim byd arallfydol. Wrth iddynt ddod yn nes at y coed
meddai’r wraig, “ Mae yna ffynnon ger y ffordd. Bore ‘fory, os ei di yno a
chodi’r garreg fawr sy ynddi, fe weli di gadwyn aur.” Pan holodd y bachgen
sut y gwyddai hi hynny, yr ateb oedd, “Roeddwn i’n gwisgo’r gadwyn am fy
ngwddf y bore'r torrwyd fy mhen i ffwrdd.” Sylweddolodd y bachgen mewn braw na
allai weld ei hwyneb o dan y cwcwll ond fod ganddi lwmp go rhyfedd o dan ei
chesail. Roedd y Ladi Lwyd yn cario ei phen ei hun. Dychrynodd y bachgen am ei
fywyd a rhedeg bob cam adref i fyny’r ffordd
hir a serth nes cyrraedd diogelwch ei dŷ a’i deulu Yn ôl yr hanes
bu yn ei wely am bythefnos yn ceisio dod dros y sioc o gyfarfod i’r ysbryd.
Dyna sut y cafodd Ffynnon yr Ysbryd – neu Ffynnon yr Ellyll (Goblin‘s Well)
ei henw. Bellach mae llwybr troed pwrpasol yn mynd dros y fan lle goferai dŵr
y ffynnon. Diflannodd y cerrig a’r gadwyn aur ond mae’r dŵr a’r
chwedl yn aros o hyd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff