RHUTHUN
FFYNNON BEDR
 TAITH        
O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH
(A        
HEN SIR FEIRIONNYDD)
Eirlys Gruffydd
Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych.
Cychwynnwyd o Ruthun a nodwyd bod Ffynnon Bedr, oedd rhyw chwarter milltir o’r dref, mewn bri a pharch mawr ar un adeg. Cariwyd dŵr ohoni i fedyddio yn yr eglwys. Erbyn 1886, fodd bynnag, roedd wedi sychu ac aeth ei safle’n angof. Wedi gadael Rhuthun aeth y bws â ni ar hyd y lonydd culion i Langynhafal ac i Blas Dolben ar odre Moel Dywyll.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU    
COLL RHUTHUN
(O’r     
BEDOL Chwefror 2013 tudalen 25. Gwybodaeth gan John Ormsby .
Diolch    
i’r Dr. Robin Gwyndaf am dynnu ein sylw at y wybodaeth hon.)
Yn    
y flwyddyn 1304 adeiladwyd priody yn Rhuthun gan yr Arglwydd de Grey i’r    
Mynachod Carmelite. Yr un adeg rhoddodd De Gray gae i’r mynachod, y cae sydd    
rhwng y tai a Ffordd Corwen a’i alw yn Cae Gwynfynach. Yng nghornel bella’r    
cae, wrth yr afon Clwyd, roedd ffynnon , a bendithiwyd y dŵr am ei fod yn    
gwella cleifion. Roedd y mynachod yn dod i’r dŵr yma i ymolchi a mynd a’r dŵr    
yn ôl i olchi’r mynachdy. Pan adeiladwyd y tai roedd angen enw ar y ffordd    
yma, ac fel arfer roedd  y Cyngor     
yn edrych ar hen hanes y dref, a dyna sut cafwyd yr enw Ffordd Gwynach    
wedi dod o Cae Gwynfynach. Pan ddaeth y rheilffordd i Rhuthun yn 1862, a    
chychwyn tyllu i’r tir i fynd a’r tren i gyfeiriad Corwen gwnaeth y tyllu    
ddrysu’r dŵr a diflannodd am byth. Digwyddodd yr un peth gyda Ffynnon Pump    
Cwrt wrth Awelon wrth adeiladu Stesion Rhuthun.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39    
Nadolig 2015.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O    
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON FWROG, LLANFWROG, RHUTHUN
 (SJ1157)
Mae Llanfwrog ar y ffordd allan o Rhuthun i gyfeiriad     
Cerrigydrudion. Mae’r stryd sy’n cario enw’r sant yn un llydan braf, ond     
wedi mynd heibio’r cylchdro mae’r ffordd sy’n dringo at yr eglwys a’r     
dafarn yn gul a throellog cyn lledu eto a mynd i gyfeiriad Clawdd Newydd.Yn     
ddiweddar derbyniwyd ebost gan Susan Kilday o Rhuthun. Roedd wedi gweld ein     
gwefan ac yn gobeithio y gallem fod o gymorth iddi. Roedd wedi sylwi fod y     
fynedfa at y ffynnon wedi cael ei symud gan darw dur a giat wedi ei gosod dros y     
fynedfa. Cyn hynny roedd llwybr o laswellt yn arwain at y ffynnon. Bwriad Susan     
oedd cysylltu â  Chyngor y Dref i     
weld beth oedd yn digwydd ar y safle. Anfonwyd ebost at Janet Bord, arbenigwraig     
ar ffynhonnau sanctaidd ac awdur nifer fawr o lyfrau ar y pwnc. Mae hi’n byw     
yn Llanfwrog ac yn dysgu Cymraeg. Er iddi edrych ar fapiau’r degwm- sy bellach     
ar gael ar lein- nid oedd cyfeiriad at y ffynnon arbennig hon. Cysylltodd â     
Tristan Gray Hulse- arbennigwr arall ar ffynhonnau sy’n byw yn Bont Newydd ger     
Llanelwy. Flynyddoedd yn ôl roedd wedi cyfarfod â hen glerigwr oedd wedi dweud     
wrtho mai’r ffynnon arbennig hon oedd Ffynnon Fwrog. Dwedodd ei bod ar dorlan     
nant yn agos i’r eglwys. Aeth Ian Taylor i Lanfwrog ac mae’n credu ei fod     
wedi darganfod y safle ond bod y ffynnon yn sych. Da gweld fod pobl leol yn     
ymwybodol o bwysigrwydd yr hen ffynhonnau a bod arbennigwyr o fri yn barod i     
ddod at ei gilydd i gofnodi a chadw ein hetifeddiaeth.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc