Home Up

LLANFECHELL  

 

FFYNHONNAU  STAD Y BRYNDDU

Ffynnon Padric (Badrig) -Llanbadrig (SH4094)  Ffynnon Fechell Llanfellech ( SH 369913)  
Ffynnon Eilian - Llaneilian(SH 466934)   Ffynnon Tal–y-Bont, Llanfechell (SH3694)  
Ffynnon Trinculo - Llanfellech(SH368898)   Ffynnon Ty Hen, Mynydd Mechell (SH3689)  

[Diolch i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r wybodaeth ganlynol am ffynhonnau  ar stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]

Mae’r ffynnon cyn hyned a gwawr gwareiddiad gan mor werthfawr yw i ffyniant dyn ac anifail. Fu erioed gymaint o werth ar ffynnon nag yng ngwledydd y dwyrain ac, yn naturiol, bu sawl anghydfod blin ynglyn a pherchnogaeth sawl un. Cyfrifid cau ffynnon yn weithred o ryfel yno ac mae’n debyg fod y gan honno yn Llyfr Numeri 21: 12-18 yn un o’r testunau hynaf yn yr Hen Destament:
  Tardda ffynnon, canwch iddi - y ffynnon a gloddiodd y tywysogion ac a agorodd penaethiaid y bobl a’u gwiail ar fryn.’

Gwyddom ninnau yng Nghymru yn dda am ddylanwad llen gwerin a thraddodiad ardal ar ein gwybodaeth am hanes ac enwau ffynhonnau (sydd ymysg yr enwau hynaf mewn unrhyw iaith, yngyd ag enwau afonydd a llynoedd). Nid yr Iddew yn unig a ganai i’r ffynnon a’i bendithion a’i rhamant hen, ac yn wir roedd i’r ffynnon swyddogaeth drifflyg: economaidd, cymdeithasol a chrefyddol. Gan bwysiced oedd y ffynnon roedd yn ffactor  bwysig ynglyn a lleoliad ferm neu dyddyn ac, yn wir, yn rheswm dros adeiladu sawl treflan. Gwelwn yn nyddiadur gwr y Brynddu bwysiced oedd y ffynhonnau.

Yr oedd dwy ffynnon gyhoeddus ym mhentre Llanfechell a chan fod gan bob tyddyn a fferm eu ffynhonnau hefyd nid rhyfedd y ceir sawl cae ar stad y Brynddu gyda’r enw ‘Cae ffynnon’. Mae’n amlwg ddigon y sefydlwyd sawl eglwys gerllaw ffynhonnau a cheir enghreifftiau o hyn ym Mon, ac yn sgil codi eglwys byddai’n naturiol i anheddau eraill gael eu codi. Daeth y ffynhonnau eglwysig hyn yn atyniad i grefyddwyr yr oesoedd a’r traddodiadau yn gymysg o baganiaeth a Christnogaeth. Yr oedd  dwy ffynnon eglwysig o fewn cylch a chwmwd William bwcle, sef Ffynnon Padric a Ffynnon Eilian (neu Ffynnon y Cawr). O roi enw’r sant arni credid bod yn ei dyfroedd  ryw rin wyrthiol. Tua chanol y ddeunawfed ganrif y cydiodd y gred yn rhinwedd iachusol dwr y mor a thyrrwyd yno i ymolchi, rhai i yfed ei ddyfroedd hallt. Yn yr un modd credid bod dwr ambell ffynnon yn iachusol, os nad yn wyrthiol.

Ond i werin Cymru yn y ddeunawfed ganrif yr oedd ystyriaethau pwysicach o lawer nag unrhyw ystyr crefyddol, neu’n wir, feddyginiaethol. Yr oedd y ffynnon fel anadl einioes iddynt a dwr gloyw glan yn eu disychedu hwy a’u hanifeiliaid. Yr oedd mor gyffredin iddynt ag y mae’r tap dwr i ni heddiw. Go brin y byddai William Bwcle wedi son amdanynt o gwbl oni bai ei bod yn rhan gyson o ddyletswyddau’r dynion i ‘lanhau’r ffynnon’.Yr oedd yn ffactor bwysig bryd hynny hefyd i ‘gadw’r dwr rhag y baw’. Wrth fynd heibio ar ddamwain y cyfeiriodd at enw’r ffynnon honno yng Nghae Lloriau, Coeden, sef ‘Ffynnon Trinculo’. A dyna agor y drws i ddyfalu o ble y daeth yr enw hwn. Hen elyn gwyllt, i gwr eithaf Mon ar ganol y ddeunawfed ganrif? Dyma’r cofnod ar 30 Mehefin 1736:’I have people at work in clearing water – course of Ffynnon Trinculo in Coyden from the said well to the Bridge.’ Fe red afonig o’r llyn malu yng Nghoeden heibio i’r ffynnon hon gan gymryd ei gofer oer. Yn ddiddorol iawn mae’r ffynnon yno o hyd a’r gwaith cerrig celfydd yn cylchynnu ei dyfroedd clir. Mae hen wartheg powld wedi rhoi hergwd i’w chapan o faen a’i ogwyddo ar ochr ei phen fel dyn meddw. Un o dafelli’r graig o Gae’r Lloriau yw’r cap, brethyn cartre os bu un erioed! Fe fynn rhai yn ardal Llanfechell o hyd na sychodd ac na fu pall erioed  ar ddyfroedd y Trinculo; aiff ambell un mor hyf a dweud na sychith hon fyth!

Ni ddywed William Bwcle iddi sychu chwaith yn ei gofnod am18 Awst 1741:

Yn ol cof ardal yr oedd haf 1911 yn eithriadol o sych ac fe sychodd y ffynhonnau, ond yn ol y son, yr oedd Ffynnon Trinculo yn goferu trosodd. Eto, ym 1959, bu’n haf anhygoel o sych. Ni chafwyd yr un diferyn o law o fis Mai hyd ddechrau Hydref, ac yn wir, yn ol y son eto, ni hysbyddodd y Trinculo:

               This summer and Autumn exceeds in heat and dryness all the summers

            in memory of man, for not only all the fresh water mills dryed thro’  

            the country but also in a manner all the rivers and most of the springs. My

           well by the Kiln that never was known to fail, now stands still and does not

           run out  and many other wells so that there is a great scarcity of water

           especially for cattle throughout the country.                

A dyna ddigon i gefnogwyr Trinculo ddweud nad yw’n enwi eu ffynnon fel un a sychodd. Yn ol disgrifiad y dyddiadurwr daeth y sychdwr mawr hwnnw i ben ar ol iddi‘Rained prodigious’ ar 7-8 Medi 1941. Dechreuodd fwrw tua deg o’r gloch ar 7 Medi a’i harllwys hi hyd bump ar yr wythfed gan adael afonydd yn rhedeg hyd y caeau. Wedi haf crasboeth 1976 daeth glaw direol ar ddyddiau cyntaf mis Medi’r flwyddyn honno hefyd.

Ond beth am yr enw – Trinculo? O ble y daeth hwn a phwy a’i bedyddiodd a dod a hi i amlygrwydd? Yn ol awduron Enwau Lleoedd Mon mae’r enw yn un cwbl unigryw ac yn cyfateb yn union i enw cymeriad yn y ddrama enwog The Tempest gan William Shakespeare. Yn ol F.G. Stokes mae enw’r cymeriad wedi ei fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’, sef ‘llymeitian’. Ar sail hyn mae’n naturiol tybied fod yma ryw flas neu werth arbennig i ddwr y ffynnon hon. Mae pob lle i gredu y byddai William Bwcle yn hyddysg yn nramau Shakespeare. Gwyddom y byddai’r dyddiadurwr yn ymwelydd cyson a’r theatr yn Nulyn ac fe allasai fod wedi mwynhau perfformiad o’r Tempest yno. Tybed ai ef a roddodd yr enw ar y ffynnon? Tybed ai ysfa gellweirus William Bwcle sydd ar waith yma? Gwyddom am ei hoffter o lasenwau a’i gellwair parhaus. Neu tybed a oes i’r enw ryw ystyr gyfrin nas gwyddom ac na chawn fyth wybod? Pam na fyddai’r dyddiadurwr hwn fel sawl un arall wedi ychwanegu gair neu ddau o eglurhad?

Ond beth bynnag am ystyr yr enw, byddai cryn amrywiaeth yn ansawdd dyfroedd y gwahanol ffynhonnau. Yr oedd dwr ambell un yn llawer pereiddiach na’r llall. Byddai cryfach tarddell i ambell ffynnon a ddaliai’r sychder yn well. Byddai trai a llanw’r mor yn effeithio ar ddwy ffynnon ym mhlwyf Llanfechell a hefyd ar ffynhonnau Bodelwyn a Tros y Mynydd ar stad y Brynddu. Yr oedd gan bob tyddyn a fferm eu ffynhonnau o fewn cyrraedd i’r ty a chai’r ffynhonnau hyn gryn sylw gan y perchnogion. Fe gawn gofnod diddorol iawn gan y ddyddiadurwr ynglyn a’i ffynnon ei hun yn y Brynddu, sy’n dangos y meddwl mawr a’r gofal a oedd gan bob teulu o’i ffynnon. Ar 28 Mai 1748, nododd: ‘the men are carrying stones to new making the old well by the kiln both larger and handsomer’. Y mae’r gair ‘harddu’ yn ddiddorol yn y cyswllt yma ac yn awgrymu, mae’n debyg, y byddai peth balchder ynglyn a ffynnon y teulu a thebygol y ceid addurniadau yng ngwaith y seiri maen a adeiladai’r math hwn o ffynhonnau.

Ond er pwysiced y ffynhonnau hyn, heb os yr oedd ffynnon y pentref yn bwysicach. Yr oedd gan bob pentref ei ffynnon neu ddwy ar safleoedd cyhoeddus, yn weddol agos os oedd modd, i groes y pentref. Daeth y rhain yn fannau cyfarfod poblogaidd iawn lle rhoid y byd yn ei le – rhyw Ffynnon Jacob Gymreig. Bu achlysur pwysig ynglyn a Ffynnon Mechell, yn ôl y dyddiadurwr, ar 15 Mehefin 1736:

Today the Parson and others of the Inhabitants of the town of Llanfechell removed the Well – that lay betwixt Ann Warmingham’s house and the bridge (and just by the river) higher up and further from the river by 6 or 7 yards.

Mae’n anodd iawn gwybod paham y bu’n rhaid symud y ffynnon o gwbl. Yn ddiddorol iawn, mae hi yno o hyd, rai llathenni i fyny oddi wrth y ffordd fawr sy’n arwain i’r Mynydd. Wrth y ffordd y mae’r pwmp o hyd ac mae amryw o’r trigolion yn cofio’n dda am ddyddiau cyrchu dwr ohono. Mae’n rhaid ei fod yn ddigwyddiad o gryn bwys gan fod Richard Bwcle, y person, wedi ymuno a’r plwyfolion, a phur anaml y cawn ni gyfeiriad ato ef y tu allan i gyffiniau’r eglwys,. Gan nad oes son fod William Bwcle ei hun wedi ymuno a hwy, tybed ai cysegru’r lleoliad newydd oedd swydd y person ac, os felly, ni fyddai gan y dyddiadurwr fawr o ddiddordeb  mewn rhyw ddefod felly.

Chwaraeai’r ffynhonnau ran bwysig iawn yn hanes y pentrefi. Yr oedd cryn wahaniaeth ynddynt ac amrywient yn eu nodweddion. Enillodd ambell ffynnon gryn enw ar sail dwr nodedig ei flas a cheid ambell un ac arni waith hardd a chelfydd o gerrig addurnol. Yr oedd gwaith celfydd iawn ar Ffynnon Ty Hen, ym Mynydd Mechell. Yn wir, byddai’r plant, Richard a Huw, yn arfer reidio beic tair olwyn o gwmpas y ffynnon honno gan fod y wal mor llydan a chryf. Ond pennaf prawf unrhyw ffynnon fyddai cryfder ei ffrwd – y ffrydiau hynny a’i bwydai o eigion y ddaear. Yn wir, dyma fyddai sgwrs y trigolion ar blyciau o sychder – ‘Ydi’r ffynoon yn dal?’ Pryderai William Bwcle yn go arw yn haf 1741 gan fod y ffynhonnau yn sychu, a thestun siarad fu haf 1959 yn enwedig gan i Robert Owen, Ty Hen a Richard, y mab, fynd yn bur llechwraidd un bore o haf crasboeth i lawr i’r Llan i mofyn dwr o bwmp Mechell, ger Tal-y bont, gan i Ffynnon Ty Hen fynd yn hesb.

Cyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhoed pwmp o haearn bwrw i godi’r dwr. Daeth y rhain yn addurn gorchestol ym mhentrefi cefn gwlad er y bu cryn wrthwynebu’r fath syniad, yn arbennig cuddio’r ffynnon hefo rhyw sowldiwr du! Mae’r ddau bwmp ar bob cwr o bentref Llanfechell o hyd yn nodi’r fan lle gynt, yn oes William Bwcle, y ceid y ddwy ffynnon – Ffynnon Mechell a Ffynnon Tal-y-bont. Canodd Ianto Soch – hen fardd gwlad gwreiddiol o Wlad Llyn – yn hiraethus i’r ffynnon pan bibellwyd y dwr i gartrefi Llyn:

                                                                 ’Rwy’n ofni mai dy bensiwn

                                                 Fydd llond dy fol o ro.

                                                ’Rol gwasanaethu’n ddistaw

                                                  Drigolion tlawd dy fro.

wrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrwrw

Dyma fanylion am y ffynhonnau a enwyd yn yr erthygl uchod fel eu ceir yn  Enwau Lleoedd Môn gan

Gwilym T. Jones a Tomos Roberts. Rhifau cyfeirnod drwy garedigrwydd Ken Lloyd Gruffydd ac mor gywir ac sy’n bosib heb adnabod yr ardal:

Ffynnon Padric (Badrig) – yn Llanbadrig /Cemais.  Ymddengys fod yna ddwy ffynnon yn coffau Padrig, y naill gerllaw Eglwys Llanbadrig (SH3794) a’r llall yn nes i  Borthwen  (SH4094) ar ochr ddwyreiniol y plwyf. 

Ffynnon Eilian – i’r gogledd orllewin o Eglwys Llaneilian ac o fewn chwarter milltir i Borth Newydd.(SH 466934)

Ffynnon Trinculo – Ar dir fferm yn dwyn yr enw Coeden ym mhlwyf Llanfechell. (SH368898)

Ffynnon Fechell – Llanfechell ar lecyn yn dwyn yr enw Waen fawr.( SH 369913)

Ffynnon Tal–y-Bont, Llanfechell (SH3694)

Ffynnon Ty Hen, Mynydd Mechell (SH3689)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up