Home Up

TRAWSFYNYDD

 

GOHEBIAETH

  FFYNNON ERWDDWR neu FFYNNON WYDDOR.

(SH612338) 

Diolch i Keith T. O’Brien, Swyddog Cynaladwyedd a’r Gymuned ym Mharc Cenedlaethol Eryri, am yr wybodaeth ganlynol am FFYNNON ERWDDWR (SH612338) neu FFYNNON WYDDOR. (Mae’n debyg mai llygriad o ‘Erwddwr’ yw ‘Wyddor’). Dyma sydd gan gyfrol am hanes y fro i’w ddweud amdani:

Ar dir fferm Erwddwfr, Trawsfynydd, mae hen ffynnon, a chredir iddi hynafiaeth a rhin, ond mae’n anhysbys pwy a pha bryd y cafwyd allan ei rhin. Adeiladwyd hi flynyddoedd lawer yn ôl, ac atgyweiriwyd a helaethwyd hi yn ddiweddar. Dywed hen draddodiadau bod rhin yn y ffynnon i wella afiechydon amrywiol, a phriodolid iddi rin cyfriniol. Mae wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreuol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig Edward Davies, Derfel Gadarn, yr hwn a fu’n trigiannu am gyfnod maith yn Erwddefr ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal.

FFYNNON CRWCLIS

Mae yna Ffynnon Crwclis hefyd ar y ffordd o bentref Trawsfynydd i Frynysguboriau. Yn ôl awdur y gyfrol a ddyfynnir uchod, Ffynnon Crogllys oedd ei henw gwreiddiol gan mai yma yr arferid crogi pobl ers talwm! (A oes rhywun yn gwybod beth yw cyfeirnod map y ffynnon hon?Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

HANES FFYNHONNAU TRAWSFYNYDD

gan Keith O’Brien

Ymhlith bwyd, lloches a thân, un o anghenion beunyddiol mwyaf sylfaenol ac angenrheidiol dyn ers bore oes yw dŵr. Yn ddiddorol roedd gan ddŵr rinwedd arall dirgel filoedd o flynyddoedd yn ôl pan gredai’r Celtiaid fod ffynonellau yn borth mynediad i fyd arall goruwchnaturiol! Byddai’r ffynhonnau yma hefyd yn cael eu cysylltu gyda duwiesau neilltuol gan i’r naill fel y llall gael eu hystyried fel symbolau o ffrwythlondeb.

Heddiw, yn y Deyrnas Gyfunol, rydym yn defnyddio ar gyfartaledd 150 litr y pen yn ddyddiol i ymolchi, yfed, fflysio toiled ac i’n peiriannau golchi. Mae’r rhain yn bethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol . Peth holl bwysig o ran ein hiechyd yw cael cyflenwad o ddŵr glân. Gwelwyd y canlyniad o ddiffyg yn y cyfeiriad yma blwyddyn neu ddwy yn ôl gyda’r holl drafferthion bu i bobl ddioddef oherwydd haint cryptosporidiwm o Lyn Cwellyn.

Wrth gwrs, cyfleustra o oes Fictoria yw’r tap dŵr sydd ar y sinc, a pheth mor handi ydi o i lenwi tegell yn ystod egwyl ym Mhobl y Cwm! Ond nid fel hyn mae hi wedi bod erioed. Cyn i’r pibellau plwm a haearn cyntaf gyrraedd ein tai, rhaid oedd gafael yn y bwced ac anelu at y ffynnon agosaf! Mae gan Traws nifer ohonynt a rhai yn dal mewn defnydd dyddiol ac un gyda rhin iachusol honedig. Dyma eu hanes :

FFYNNON CWRCLIS (SH705355)

Lleolir Ffynnon Cwrclis ar ochr y ffordd sy’n arwain i ffermdy Brynysguboriau. Dywedir i’r enw darddu o croglys gan mai yma y byddai drwgweithredwyr yn cael eu crogi yn yr oes a fu. Roedd hon yn ffynnon bwysig i’r pentre’ cyn i’r tai dderbyn dŵr prif gyflenwad a bu i Rolant Wyn, ewythr Hedd Wyn, ganu ei chlodydd yn y gerdd ganlynol:

DŴR Y FFYNNON

Fwyn ddarllenydd, yn dy syched

Hwde ddracht o ddyfroedd byw;

Nid o’r llyn y daw, na’r afon –

Dŵr o Ffynnon Cwrclis yw.

 

Dŵr o lygad clir y ffynnon,

Nid o’r bibell wrth dy ddôr,

Dŵr o ffynnon fach y pentref

Honno’n tarddu yn y môr.

 

Dŵr fu’n disychedu’r tadau,

‘Mhell cyn geni neb sy’n fyw;

Dŵr â blas fy mebyd arno –

Dŵr o Ffynnon Cwrclis yw.

 

Ŷf ohono, fwyn ddarllenydd,

Pryd y byddi’n teimlo’n flin;

Dim ond dracht o ddŵr y ffynnon-

Llawer gwell yw ef na’r gwin.

Ceir cyfeiriad arall i ffynhonnau Traws gan Rolant Wyn mewn rhigwm maith a wnaeth i’r Rhedegydd ar 9fed Medi 1937. Dyma’r darn perthnasol:

Cyn dod o’r pibellau haearn

A’r dyfroedd i’r tai mor hael,

Cai’r tlodion fynd i’r “ffynhonnau”

Pryd hwnnw heb ofni’r draul.

Mae’r llinell olaf yn ddiddorol iawn oherwydd pwynt pwysig sy’n hawdd i ni ei anghofio yw’r ffaith fod dŵr ffynnon yn ddŵr sy’n rhad ac am ddim – yn wahanol iawn i’r dŵr a ddaw o’n tapiau!

Pan oedd y gwersyll milwrol yn ei anterth yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf, byddai’r milwyr yn dod a’u dillad budr i’w golchi at wragedd Stryd Faen. Gorchwyl un o’r rheini fyddai cario galwyni o ddŵr o’r ffynnon i bwrpas y golch wythnosol. Byddai’r ychydig geiniogau a gai’r gwragedd yn ychwanegiad croesawus iawn i’w lwfans cadw tŷ.

Pan oeddem yn blant rhaid oedd stopio am lymaid o’r ffynnon bob tro, a da oedd cael llond dwylaw wedi cwpanu o’r dŵr oer, clir a blasus – yn enwedig os oeddem yn sychedig ar ôl ymladd Almaenwyr neu Indiaid Cochion yn Creigiau Bach!

FFYNNON LLWYBR CUL (SH 708358)

FFYNNON LLWYBR CUL

Ceir hyd i’r ffynnon yma yn lle mae Llwybr Cul o Benrallt a Llwybr y Dafarn o ddechrau Penygarreg yn cyfarfod i ymuno’n un i arwain i Dy’n Pistyll. Ers talwm byddai seston llechan yma, sef tair llechan wedi eu ffurfio mewn siâp bocs i dderbyn y dŵr, gyda thwll tua modfedd o ddiamedr yn y slab blaen. Allan o hwn byddai’r hylif grisial yn llifo i’r teithiwr sychedig. Mae’r lechan blaen wedi diflannu’n anffodus ond mae’r rhai ochrol yn dal yn eu lle gydag ôl naddiad ynddynt lle byddai’r rhan blaen yn ffitio’n daclus. Cyfeiriwyd uchod at Lwybr y Dafarn, sef tafarn y Bull sydd ers blynyddoedd bellach yn annedd. Mae’r enw’n adlais o’r hen ddyddiau pan fyddai porthmona mor bwysig i economi’r ardal a hynny’n cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod gefail go’ drws nesaf i’r adeilad. Bryn Ffynnon yw enw’r tŷ rŵan, sydd wrth gwrs, yn hunan eglurhaol.

 

FFYNNON LAS (SH730316)

Mae FFYNNON LAS yn dal mewn defnydd dyddiol ac fe leolir hi ar ochr chwith y ffordd sy’n arwain o Benstryd i Bont Dol Mynach yng Nghwm Dolgain. Mae blas heb ei ail ar ddŵr y ffynnon hon. Pan roir potel i lenwi o dan y beipen sy’n ymwthio allan o’r seston, fe welir cyddwysiad yn ffurfio mewn ennyd ar ei hochr allanol oherwydd oerni’r dŵr.

FFYNNON ERWDDWFR (SH 723331)

Ceir hyd i’r ffynnon hon mil o droedfeddi uwchben lefel y môr a hyd dau gae i’r dwyrain o ffermdy Erwddwfr neu Wyddor ar lafar gwald. Mae hen fapiau yn ei dynodi fel bath. Ceir disgrifiad diddorol o’r ffynnon yn Ardudwy a’i Gwron gan Dewi Eden, sef y Parch. David Davies, Harlech (1914) Dyma ddyfyniad o’r gyfrol:

Mae hon ar dir Erwddwfr, Trawsfynydd. Priodolir i’r ffynnon hon gan y trigolion hynafiaeth a rhin. Pwy, a pha bryd y cafwyd allan ei rhin, sydd anhysbys. Yr oedd wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig Edward Davies (A), Derfel Gadarn, yr hwn a fu’n trigiannu am gyfnod maith yn Erwddwfr, ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal. Dywedir fod dyfroedd y ffynnon hon yn meddu rhin i wella afiechydon amrywiol, a phriodolir iddi rin cyfriniol.

Gresyn fod Ffynnon Llwybr Cul mewn cyflwr adfail. Bu i’r Cyngor Cymuned geisio ei hadfer ychydig yn ôl. Mae Ffynnon Las yn cael ei chadw’n daclus. Hefyd mae cyflwr da ar ffynnon hynafol Cwrclis- diolch i ymdrechion Y Bnr. John S. Jones, perchennog y safle.

Tagwyd Ffynnon Bryn Glas (SH709354) â brwyn, diflannodd Ffynnon y Rheithordy (9SH706357) ac mae Ffynnon Rewllyd (SH792309) yn adfail. Ond Gellir gweld Ffynnon Brynhyfryd (SH7073530) yng ngwaelod y cae tu cefn i Warws lôn. Mae ffos fach yn tarddu o’r ffynnon sydd wedyn yn troelli ei ffordd i’r llyn. Gobeithio’n fawr nac anghofiwn ein ffynhonnau na’i hesgeuluso’n fwy, oherwydd gyda newid hinsawdd yn bygwth cyfnodau maith o sychder yn ein hafau, efallai bydd yn dda i ni eu defnyddio unwaith eto!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU ARDUDWY

 

FFYNNON ERWDDWFR 

(SH612338)

 Codwyd y wybodaeth ganlynol o Gyfrol David Davies, (Dewi Eden) Harlech ARDUDWY A’I GWRON a gyhoeddwyd yn 1914 ac a argraffwyd  dros y  cyhoedddwr gan J. D.Davies and Co., Swyddfa’r “Rhedegydd”, Blaenau Ffestiniog. Dyma a ddywedir am ffynhonnau Ardudwy ar dudalennau 21a22. (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Mae hon ar dir Erwddwfr, Trawsfynydd. Priodolir i’r ffynnon hon gan y trigolion hynafiaeth a rhin. Pwy, a pha bryd y cafwyd allan ei rhin sydd anhysbys. Yr oedd wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig  Edward Davies (A.) Derfel Gadarn, yr hwn a fu yn trigiannu am gyfnod  maith yn Erwddwfr, ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal. Dywedir fod dyfroedd y ffynnon hon yn meddu rhin i wella afiechydon amrywiol a phriodolid iddi rin cyfriniol.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up