Home Up

TREGARON

 

FFYNNON GARON

(SN 675595)

Gyda chryn drafferth y cafwyd hyd i’r ffynnon hon a hynny ar ôl cael ein cyfeirio ati gan un a fu’n ei glanhau’n gyson am rhai blynyddoedd. Mae yng nghanol tyfiant ar ochr dde y ffordd sy’n arwain i mewn i Dregaron o gyfeiriad Llambed. Mae i lawr ar waelod llethr serth bron gyferbyn â’r goleuadau sy’n fflachio ar adegau prysur i ddangos bod Ysgol Uwchradd Tregaron gerllaw. Arbedwyd ac adnewyddwyd y ffynnon gan Gyngor Sir Dyfed yn 1991, pan wnaed gwelliannau i’r ffordd. Cyngor Cymuned Tregaron sy’n berchen ar y ffynnon ac ar un adeg gwnaed llwybr ati, ond erbyn hyn mae’r llwybr wedi diflannu’n llwyr o dan y tyfiant. Wedi cyrraedd at y ffynnon gwelwyd bod ei hadeiladwaith yn ddiddorol a’i bod mewn cyflwr da. Mae’r dŵr yn llifo ohoni drwy sianel o waith cerrig cywrain ond eto mae tyfiant o wair trwchus wedi cau’r sianel ac mae’r ffynnon wedi gorlifo. Mae angen gofal cyson arni i gadw’r gofer yn glir ac ysgrifennwyd at y Cyngor i ofyn i hyn gael ei wneud. Diddorol oedd sylwi bod ceiniog wedi ei thaflu i’r ffynnon yn ddiweddar. Yn y gorffennol roedd plant yn arfer dod at y ffynnon i yfed y dŵr wedi ei felysu â siwgwr ar Fawrth y pumed, dydd gŵyl Sant Caron. Hefyd byddai cariadon yn dod ati ar Sul y Pasg i rhoi anrheg o fara gwyn i’w gilydd ac i yfed y dŵr. Byddai’r ffynnon yn gyrchfan i nifer fawr o bobl ar yr adegau hyn.

Yng nghyfrol ddiddorol Bethan Philip, Rhwng Dau Fyd, sy’n sôn am hanes Joseph Jenkins, Trecefel, Tregaron, a fu’n swagman yn Awstralia am bum mlynedd ar hugain, cafwyd cyfeiriad at Ffynnon Garon a nifer o ffynhonnau eraill. Roedd Joseph Jenkins yn cadw dyddiaduron ac ynddynt ceir gwybodaeth am ffynhonnau’r ardal. Meddai am Ffynnon Garon:

Swains and maids used to resort on Easter Day… To drink the mother of all liquors produced by this spring.  

Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Tregaron i ofyn iddynt lanhau’r gofer yn Ffynnon Garon a hwyluso’r ffordd ati. Holwyd hefyd am gyflwr Ffynnon Einon a Ffynnon Elwad. (Gol.)

 

Ffynnon Elwad  a Ffynnon Einon

Mae’n cyfeirio hefyd at Ffynnon Elwad ger Allt Ddu. Darganfuwyd y ffynnon hon gan fynachod Ystrad-fflur ac roedd yn arbennig o dda at wella bronnau poenus. Gerllaw Pont Einon mae Ffynnon Einon yn tarddu. Ailddarganfuwyd y ffynnon hon yn 1855 a’i hailagor mewn seremoni fach. Nododd Joseph Jenkins yn ei ddyddiadur:

The company assembled at the well, and having drunk several pints of the clear water,

sang the verses.

Roedd yntau wedi cyfansoddi englynion i nodi’r digwyddiad.

FFYNNON EINON

Mae Ffynnon Einon yn anwyl – i glaf

    Dan glwyfau mhob perwyl.

Ond mae’n hynod, mewn anhwyl

Gyr bob haint, egyr bob hwyl.

 

Gwrol y tardd o gariad – o law Ner

    I le noeth daw’r llygad

O! ffoi i’r wledd, wnaffo’r wlad,

Ac oddef ei dadguddiad.

O gyrrau, tua Tregaron – O dewch

    Rai sydd dan archollion.

Golwg hoff – rhed y cloffion –

Heibio i ffwrdd heb eu ffon.

.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON GARON

Derbyniwyd llythyr gan y Cyngor Tref yn nodi fod plant Ysgol Sul Bwlchgwynt wedi gofyn am ganiatâd i ymgymryd â phrosiect i lanhau ardal y ffynnon. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at yr adran briodol yn y Cyngor Sir.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff 

FFYNNON GARON

Unwaith eto, drwy haelioni Cyngor Sir Ceredigion, mae swm o arian wedi cael ei glustnodi er mwyn glanhau'r ffynnon, a mynedfa amlwg a diogel iddi yn cael ei chwblhau. O dan arweiniad swyddog ieuenctid lleol, a chymorth plant Ysgol Sul Capel Bwlchgwynt, bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn fuan.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON GARON

Mae nifer o ieuenctid Tregaron wedi mynd ati i ailgodi’r hen arferiad o fynd at Ffynnon Garon i yfed dŵr a siwgwr. Yn y gorffennol byddai pobl ifanc yn ymgynnull wrth y ffynnon ar yr wyl fabsant  ar y pumed o fis Mawrtha hefyd adeg y Pasg. Roedd yn arferiad hefyd i gariadon dod ag anrhegion o fara i’w gilydd, ei fwyta ac yna ei olchi i lawr gyda dŵr y ffynnon. Mae arwydd i’w osod ar y briffordd uwchwchben y ffynnon yn dangos y fynedfa i’r llwybr sy’n arwain ati. Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes yn wych a phont o bren wedi ei chodi dros y nant sy’n goferu ohoni. Er bob gofal mae tyfiant yn tueddu i dagu’r llwybr a bydd angen gwaith cyson i’w gadw ar agor, ond diolch am bob ymgais i ddiogelu’r ffynnon a’r tir o’i chwmpas. (Gweler mwy am Ffynnon Garon ar yr erthygl Ffynhonnau Ceredigion ISOD yn y rhifyn hwn.)

 

FFYNHONNAU CEREDIGION

 (Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

 

FFYNNON GARON

Gelwid y llall yn Ffynnon Caron ac mae Gŵyl Sant Caron ar y pumed o fis Mawrth. Arferai plant yr eglwys fynd i'r ffynnon yma ger Glanbrenig ar Ŵyl Sant Caron i yfed dŵr a siwgwr brown. Roedd pob un yn dod â photel fach a thipyn o siwgwr brown yn ei gwaelod. Wedi cyrraedd y ffynnon byddent yn ffurfio yn hanner cylch oddi amgylch a phob un yn ei dro yn llanw ei botel a dŵr. Byddai pob un wedyn yn siglo'r botel nes toddi'r siwgwr ac yna yfed pob diferyn gyda'i gilydd a dyna'r seremoni drosodd am flwyddyn arall.

 

FFYNNON Y GORS

Hen fod ymhell o Langeitho mae tref fechan Tregaron. Yn naturiol roedd amryw o ffynhonnau yn y cylch a gelwid un ohonynt yn Ffynnon y Gors. Credid bod meddyginiaeth yn ei dyfroedd i'r gwan a'r afiach. Dyma sut y canodd un bardd iddi:

Ar lan y Teifi lonydd y tardda ffynnon fwyn,

O gellau'r Fannog Beunydd heb gysgod craig na llwyn.

Hen ffynnon goch Cors Caron yw enw'r darddle lon,

Ac ni rydd haf na gaeaf fyth glo ar enau hon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFILMIO’R FFYNHONNAU  

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Ymlaen a ni a chyrraedd Tregaron yn y gobaith o fedru ymweld a Ffynnon Garon . Bu ieuenctid y fro yn gweithio i adfer y ffynnon rai blynyddoedd yn ol ac agorwyd llwybr i fynd ati gyferbyn a’r ty cyntaf cyn dod at yr arwydd 30 milltir yr awr  wrth deithio o gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan. Yn anffodus roedd y mynediad i’r llwybr wedi ei gau gan dyfiant trwchus felly rhaid oedd mynd i lawr y llethr serth at y ffynnon o’r ffordd fawr uwchben. Wedi cyrraedd yno gwelwyd fod y ffynnon wedi ei hesgeuluso a’r holl waith da a wnaethpwyd wedi ei orchuddio a drain a mieri. Mae pompren wedi ei chodi dros y  nant sy’n goferu o’r ffynnon ac mae hyn wedi costio mewn adnoddau, arian ac amser, ac eto’i gyd mae’r ffynnon  a’r llwybr ati wedi ei hesgeuluso. Mae ffynhonnau yn bethau byw a rhaid gofalu amdanynt yn gyson. Ar ddydd gwyl mabsant byddai pobl ifanc yr ardal yn arfer casglu at ei gilydd ger y fan yma flynyddoedd maith yn ol i yfed y dwr a thipyn o siwgwr ynddo a chael llawer o hwyl. Gallai’r ffynnon fod yn fodd i ddenu ymwelwyr eto pe cai’r ofal sydd ei angen.

LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up