TREGARTH
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON Y WRACH /
PISTYLL YR EURYCH, TREGARTH, ARFON.
Fis Mehefin
diwethaf aeth Gwyn Edwards, Llanddeiniolen â ni i ddangos llecyn arbennig i ni
ar dir Moelyci ger Tregarth lle mae dŵr yn tarddu o dan hen dderwen
ganghennog fawr mewn coedwig a llwybr sy’n arwain trwyddi at waun agored
gerllaw nifer o henebion o’r hen amser. Mae awyrgylch arallfydol yn y lle a
hawdd gellir dychmygu fod derwyddon wedi bod yma ar un adeg yn addoli’r coed
a’r dŵr. Er i ni dynnu lluniau nid oedd digon o olau o dan y coed iddynt
ddod allan yn ddigon da i’w cynnwys yn Llygad
y Ffynnon. Nid oedd sicrwydd am enw’r tarddiad. Yn Archifdy’r Brifysgol,
Bangor
gwelwyd mewn un o ddogfennau Stad Penrhyn a’r dyddiad 1768 mai Richard
Pennant oedd perchennog Moelyci a Thomas Robert Owen yn denant. Mae’r enwau
Cae’r Wrach a Cae Pistyll yr Eurych ar y tir o gwmpas y tarddiad ac anodd oedd
bod yn sicr beth oedd enw’r ffynnon. Nid oedd yr awyrgylch wrth y ffynnon yn
braf iawn a hawdd gellid fod wedi cysylltu’r lle gyda gwrachyddiaeth a
melltith yn y gorffennol pan oedd y werin yn credu’n gryf yn y fath beth. Ond
yn ddiweddar cafodd Gwyn gadarnhad mai Pistyll yr Eurych yw’r enw cywir ar y
tarddiad. Rhaid felly bod gof oedd
yn gweithio mewn aur wedi defnyddio’r dŵr rhyw dro
yn y gorffennol. O flaen y goeden mae’r dŵr yn codi i ffynnon gyda
cherrig mawr cyn goferu i ffynnon ddiweddarach o frics. Mae’r dŵr wedyn
yn llifo i gafn llechu cyn goferu i ffos sy’n rhedeg gyfochrog â’r llwybr.
Gobaith Gwyn yw glanhau’r ffynnon a thacluso’r amgylchedd o’i chwmpas. Cawn fwy o hanes y fenter yn Llygad y
Ffynnon cyn hir, gobeithio.
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff