Home Up

  TRELECH

 

Gwelir yr wybodaeth ganlynol ar dudalennau 83 i 85. (Cadwyd at y sillafu fel y’i ceir yn y gwreiddiol.Dyma wybodaeth am FFYNHONNAU SIR GAERFYRDDIN 

o gyfrol CASGLIAD O LÊN GWERIN SIR GAERFYRDDIN gan y Parch D.G. Williams. Cyhoeddwyd y gwaith am y tro cyntaf yn 1895 

gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd copi argraffedig o’r gyfrol yn 1996 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin. 

 

FFYNNON FRON LAS

(SN295287)

Ffynnon fechan ar waun fferm o’r enw Bron Las, ym mhlwyf Trelech, yw hon. Nid yw y sôn am dani wedi mynd ymhell, ond credai’r hen bobl fod ynddi rinwedd iachaol rhyfedd, ond yfed o’i dŵr cyn codiad haul, yr un fath ag y nodais am Ffynnon Beca. Cyfetyb hyn i’r arferiad yn yr Alban gyda Loch Manaar.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up