Home Up

YMWELYDD DIDDOROL SY'N RHYFEDDU AT EIN FFYNHONNAU

Ken, Eirlys, Tibor a Gwyn

Daeth Gwyn Edwards ag ymwelydd diddorol ac annisgwyl i’r Wyddgrug ar ddiwedd mis Ebrill.

Dyn o Hwngari yw Tibor. Bu unwaith yn beilot awyrennau ond erbyn hyn mae'n teithio o wlad i wlad i rannu profiad anghyffredin iawn a gafodd. O dan lawdriniaeth bu farw a pharhaodd yn farw am naw munud. Yn rhyfeddol cafodd adferiad ond y peth mwyaf oedd yr hyn a brofodd yn ystod yr amser y bu'n glinigol farw. Roedd ym mhresenoldeb Duw a chariad diamodol yn ei amgylchynu. Bellach mae'n rhannu ei brofiad gan ddweud wrth bawb mai caru ein gilydd sy'n bwysig. Nid oedd yn berson crefyddol cyn hyn. Er ei fod yn aelod o'r Eglwys Babyddol mae'n parchu pob traddodiad Cristnogol. Gwêl fod y ffynhonnau yn ein tynnu ni i gyd at ein gilydd. Cafodd agoriad llygad wrth weld amrywiaeth pensaernïol ein ffynhonnau a chyfoeth y traddodiadau amdanynt sy wedi goroesi. Roedd wrth ei fodd fod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ceisio adfer yr hen ffynhonnau. Roedd wedi ymweld â Threffynnon ac wedi rhyfeddu at y lle a rhoddwyd copi o Llygad y Ffynnon yn cynnwys llun o Ffynnon Wenffrewi iddo. Roedd yn edmygu gwaith y gymdeithas yn fawr iawn ac yn dymuno’n dda i ni yn y dyfodol.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y ffynhonnau rydym wedi ysgrifennu at Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth yn y Cynulliad i ofyn am ei gymorth i ddiogelu safleoedd y ffynhonnau. Da byddai cael grym statudol o'r Cynulliad i orfodi perchnogion preifat i ddiogelu'r ffynhonnau ar eu tir. Hefyd dylai Cynghorau, wrth ystyried ceisiadau am adeiladu a lledu ffyrdd, fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ffynhonnau rhag iddynt gael eu dinistrio gan ddatblygiadau.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

Home Up