Home Up

YSBYTY IFAN

(Mae rhai o'r fynhonnau hyn yn Sir Gaernaarfon ac eraill yn Sir Ddinbych)

 

FFYNNON EIDDA 

(SH76204370) 

Ar dudalen 273 yr un gyfrol, mewn ysgrif ar 'Ysbytty Ifan a'i hynafiaethau', ceir yr wybodaeth ganlynol:

… saif Ffynnon Eidda, yr hon a ystyrid gynt yn rhinweddol, ac yn effeithiol i symud a gwella anhwylderau. Mae ei gofer yn gryf orlifo bob amser o ddwfr gloyw a blasus, ac y mae maen-saerniaeth da wedi ei wneyd o'i chwmpas, pan oedd yr Ystad yn meddiant Lord Mostyn.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

FFYNNON RINWEDDOL TŶ NANT,

YSBYTY IFAN 

(SH849481)

Daeth i feddiant y Golygydd lythyr a ysgrifennwyd (mewn Saesneg) gan H.S.Owen, Bryn Llan, Ysbyty Ifan yn 1994 at Derek Williams, Mynydd Isa. Gof oedd Mr Owen wrth ei alwedigaeth. Dyma gyfieithiad o'r llythyr.

Rwyf wedi gwneud ymholiadau am y ffynnon chalybeate yn Nhŷ Nant, Llan. Wedi siarad â'r mwyafrif o henoed y pentref mae'n ymddangos fod y cwt dros y ffynnon wedi ei gwneud o bren gyda, o bosib, do corrugated iron drosti pan ddirywiodd cyflwr y to pren. Roedd un o'r bobl y bûm yn siarad â nhw wedi cael ei eni yn 1902 ac roedd ganddo gof eithriadol o dda. Roedd wedi gweithio yn Nhŷ Nant pan yn fachgen ifanc. Cofiai yn dda fel y byddai'n rhoi ei draed yn y dŵr a hwnnw'n eithriadol o oer. Roedd gan y bobl leol fydd yng ngallu'r ffynnon i wella anhwylderau, ei bod yn ffynnon rinweddol a meddyginiaethol. Fel canlyniad yfodd yntau ohoni'n gyson. Gan ei fod erbyn hyn yn nawdeg dwy oed roedd yn amlwg nad oedd y dŵr wedi gwneud unrhyw niwed iddo!

Byddai plant oedd a defaid ar eu dwylo yn cael eu hanfon at y ffynnon a dal eu dwylo o dan y dŵr cyn hired ag y gallent ddioddef hynny ac wedyn i rwbio'r mwd o liw rhwd oedd i'w ganfod ar waelod y ffos (y gofer mae'n debyg) ar y defaid. Roedd hyn yn sicr o gael gwared ar y tyfiant hyll. Cofiaf fod cred debyg yn rhinwedd iachusol y dŵr yn y tanc haearn yn yr efail leol, pan oedd y gof yn gwthio'r haearn poeth iddo i oeri.

Roedd Mr Davies, (ganwyd yn 1902) Yn cofio fod y cwt oedd dros y ffynnon yn edrych fel pe bai wedi gweld dyddiau gwell a'r tywydd wedi gadael ei hôl arno, felly roedd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, o gwmpas 1816-17. Roedd drws i fynd i mewn iddo a phlanciau pren ar hyd yr ochrau o'i gwmpas o wneud seddau. Doedd y planciau ddim yn llydan iawn, tua chwech i saith modfedd o led, roedd yn barnu. Roedd yr adeilad i gyd tua un droedfedd ar bymtheg o hyd a deg troedfedd o led. Roedd ei chwaer, Mrs Wright, yn cytuno mai dyna oedd maint yr adeilad. Cofiai fynd yno pan oedd rhwng deuddeg a phedair ar ddeg. Mae tuag wythdeg pump erbyn hyn felly bu ger y ffynnon yn ail ddegawd y ganrif hon.

Euthum at y ffynnon fy hun pan oeddwn tua wyth neu naw a byddai hynny ym mlynyddoedd olaf ail ddegawd y ganrif ac yn bendant doedd dim adeilad dros y ffynnon yr adeg honno. Roedd yn arferiad i ni yfed y dŵr o'r tarddiad a chario peth adref mewn caniau tun, fel arfer can llefrith oedd yn dal chwart. Roedd caead arno a handlen lydan i'w gario. Ambell dro, yn anffodus, byddai'n rhaid cario'r dŵr adref mewn hen dun taffi Red Rose. Byddai hwn hefyd yn dal chwart ond roedd yr handlen weiren denau a gallaf gofio'r boen wrth i'r weiren dorri i mewn i gnawd meddal fy mysedd.

Tynnwyd y cwt i lawr gan denant Tŷ Nant oherwydd bod gormod o bobl yn tresmasu wrth gerdded ar draws ei dir at y ffynnon . Neu, o bosib, fod y ffynnon erbyn hynny wedi peidio â bod yn gyrchfan boblogaidd. Yn sicr ni fyddai wedi cael gwneud y fath beth pan oedd y ffynnon yn ei bri. Yn ôl yr hen frawd a'i chwaer y bum yn eu holi am y ffynnon, roedd y lle'n hynod boblogaidd fel man cyfarfod i bobl leol ar brynhawniau a nosweithiau Sul yn yr haf. Ni allent gofio llawer am y canu a gaed yno. Nid cymanfa wedi ei threfnu byddai hi ond ymateb naturiol i'r dyhead i uno mewn cân. Byddai'r un peth yn digwydd yn y pentref pan fyddai gweision y ffermydd yn casglu at ei gilydd wrth y siop neu'r efail. Yn aml byddai'r canu yn para am oriau, tan berfeddion, a ninnau'r plant i fod yn cysgu'n drwm. Ond roedd yn werth cadw'n effro i glywed tua ugain i bump ar hugain o ddynion ifanc gyda chyfoeth o leisiau tenor a bas yn canu emynau gan mwyaf. Tybed a oedd cysylltiad rhwng y canu wrth y ffynnon â diwygiad 1904-05 a Methodistiaid oedd y rhan fwyaf o bobl fyddai mynd yno i ganu.

Does neb yn gwybod pwy gododd y cwt yn y lle cyntaf. Roedd rhywun wedi teimlo bod angen rhyw fath o adeilad dros y ffynnon. Roedd llai o reolau cynllunio a phwyllgorau'r dyddiau hynny a byddai'r cwt wedi ei godi heb fawr o ffỳs na ffwdan. Mae'n bosib mai Stad y Penrhyn oedd y tirfeddianwyr yr adeg honno. Galli'r Cyngor Plwyf fod wedi ei godi neu unigolion oedd yn teimlo bod angen rhyw fath o adeilad dros y ffynnon. Daeth llawer tro ar fyd yn yr ardal hon, fel mewn mannau eraill ers hynny, ond da bod atgofion fel hyn yn cael eu cadw.

Diolch i Mr Derek Williams am ganiatâd i gofnodi cynnwys y llythyr yn Llygad Y Ffynnon. Tybed a oes gan un o'n haelodau wybodaeth ychwanegol am y ffynnon hon a ffynhonnau eraill yn y fro?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

FFYNNON TŶ NANT, YSBYTY IFAN (SH849481)

Helga Martin

(Addaswyd o’r ODYN rhif 401, Medi 2011 Tudalen32)

 

 Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Fforwm Hanes Cymru caf amser difyr wrth ofalu am ymwelwyr yn stondin y gymdeithas hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bob blwyddyn bydd wyth i ddeuddeg o gymdeithasau sy’n ymwneud â hanes yn arddangos yn stondin y Fforwm. Caiff ymwelwyr o bob ryw wybodaeth am wahanol agweddau ar hanes ein gwlad. Rhai ffyddlon i'r stondin yw Eirlys a Ken Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Fe’m hanogwyd gan eu brwdfrydedd i ddod yn aelod o’u cymdeithas. O ganlyniad dechreuais fagu diddordeb mewn ffynhonnau. Deallais yn fuan bod miloedd ohonynt yn dal i lifo fan hyn a fan draw, drwy Gymru benbaladr Yna sylweddolais â chywilydd fy mod i wedi byw yma yn Ysbyty Ifan ers 27 mlynedd a heb erioed ymweld â Ffynnon Tŷ Nant, a oedd ers talwm yn bwysig iawn i drigolion y gymuned ac sy’n cuddio ar y gweundir heb fod ymhell oddi wrth fy nghartref. Ym mis Gorffennaf, gyda chyfarwyddiadau gan Ellis Wyn Roberts sy’n ffermio Tŷ Nant, dyma ddringo’r allt heibio Capel Seion tuag at Dy’n Ffridd. O’r fan honno i’r chwith, croesi cae, trwy giât fferm, ac i’r dde ar hyd ffos sy’n amlwg yn arwain y dŵr lliw oren i waered o’r ffynnon llawn haearn.

Yn fuan camu dros y ffos at y ffens sy o’i hamgylch i gadw gwartheg Ellis Wyn draw. Dyma hi - wedi llechu o dan dyfiant anniben ers amser maith am nad oedd neb bron yn gweld ei heisiau bellach. Dringo’r ffens i nesáu ati a dyma weld pedair llechen las fawr o gwmpas twll hirsgwar, dwfn, sylweddol. Mae dŵr clir, oer iawn yn rhedeg yn rhydd o beipen dwy fodfedd, a osodwyd i’r mawn, ac mae’n ymgasglu yn yr ymdrochle, cyn mynd ar ei daith ar hyd y ffos drwy’r caeau. Dim ond ar ôl cyfarfod ag ocsigen mae’r dŵr tryloyw yn troi yn lliw oren sy’n dynodi bod canran uchel o haearn ynddo. O’i yfed clywir rhyw flas rhyfedd, braidd yn annifyr arno. Ffosfforws sy’n achosi hyn. Cefais ar ddeall bod yr un nifer ond un o wahanol fathau o fwynau yn nŵr ein ffynnon ni â Ffynnon Trefriw. Erbyn hyn mae clod a golud Ffynnon Trefriw wedi ymledu dros y byd i gyd, am eu bod yn gwerthu'r dŵr i feddygfeydd o dan yr enw Spatone ers blynyddoedd bellach, herwydd bod yr haearn ynddo yn haws i’r corff ymdopi â fo na’r un mewn tabledi.

Mae’r cwt pren a fu dros ein ffynnon ni wedi hen ddiflannu, wedi pydru tybiaf fi. Ni welais y stepen a oedd yno rywdro chwaith. Petai aelod o’r teulu yn wael cyn dyfodiad y Gwasanaeth iechyd, a phan ystyrid galw meddyg yn rhy ddrud, byddai ambell i blentyn yn cael ei anfon gyda photel neu din i “nôl peth o ddŵr y ffynnon” i wella’r claf. Byddai cariadon yn arfer ymlwybro hyd at y ffynnon ar ôl gwasanaeth yn y capel ar nos Sul - i gael llonydd, gredaf i. Lle bendigedig i brofi heddwch yw unigeddau’r gweundir a’r ffynnon yn eu canol. Credir heddiw bod y dŵr yn lles i’r rhai sy’n dioddef efo llid y cymalau ac mae Gruff Ellis, naturiaethwr Ysbyty Ifan, yn dal i ymddiried yn ei rinwedd. Yn fy nhyb i, oerni eithriadol y dŵr sy’n gallu lleddfu poen crydcymalau. Clywais am lawer o ffynhonnau yng nghyffiniau’r plwyf sy wedi mynd yn angof ers i ddŵr tap gyrraedd ond mae eu henwau’n dal efo ni. Dyna Ffynnon Pen Lladdfa Fain, y tu draw i dŷ’r gweinidog, er enghraifft, lle’r arferai Huw Selwyn gael ei ddŵr ers talwm. Dyma hanesyn difyr i orffen: cafodd tair merch Eifion (mab ieuengaf Ellis Wyn) a Wenda, sy’n byw gyferbyn â’r eglwys, eu bedyddio â dŵr ffynnon Tŷ Nant. Bendith arnynt!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff 

FFYNNON JIWBILI

Diolch i Helga Martin, Ysbyty Ifan am y llun a’r wybodaeth am y ffynnon hon.

 

Mae Ffynnon Jiwbili Brenhines Ficytoria yn ymyl coedlan ar y ffordd rhwng Ysbyty Ifan a’r ffordd A5. Mae’n dal i lifo. Nid ffynnon sanctaidd mo hon ond mae wedi ei gosod i anifeiliaid allu cael diod.  Yn ôl y sôn roedd Ysbyty Ifan ers talwm yn lle roedd y porthmyn yn cysgu cyn gyrru’r gwartheg i Loegr.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 39 Nadolig 2015.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcffccffccffccffccffc

Home Up